Skip to content

Cyhoeddi partneriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Thîm Cymru Gemau’r Gymanwlad

28 Gorffennaf 2024
Left to right: Rebecca Edwards-Symmons, Commonwealth Games Wales CEO; Professor Sheldon Hanton, Pro-Vice Chancellor (Research); Professor Cara Aitchison, Cardiff Met Vice Chancellor; Helen Phillips MBE, Commonwealth Games Wales President; Ben O’Connell, Director of Sport at Cardiff Met
Cyhoeddwyd y bartneriaeth yn swyddogol yn y Cinio Seremonïau Graddio. (Chwith i'r Dde) Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru; yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil); yr Athro Cara Aitchison, Is-ganghellor Met Caerdydd; Helen Phillips MBE, Llywydd Gemau'r Gymanwlad Cymru; Ben O’Connell, Cyfarwyddwr Chwaraeon Met Caerdydd.​

 

​​Mae partneriaeth saith mlynedd newydd wedi’i chyhoeddi rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Gemau’r Gymanwlad Cymru, a hynny er mwyn creu cyfleoedd addysg, ymchwil a chyflogaeth ar gyfer pobl ifanc hyd a lled Cymru.

Daw’r cyhoeddiad mai Met Caerdydd fydd Partner Addysg Uwch Tîm Cymru wythnos cyn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad Trinbago 2023 (Mercher 4 – Gwener 11 Awst, 2023).

Bydd y ddau sefydliad yn cydweithio er mwyn datblygu nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys gwaith ymchwil, technoleg a chyfryngau digidol, menywod mewn arweinyddiaeth chwaraeon, lleoliadau i fyfyrwyr, ac ystod o raglenni sy’n canolbwyntio ar ysgolion a chymunedau ar draws Cymru gyfan.

Hannah Brier, center, competes in sprinting competition during the Commonwealth Games
Hannah Brier, sbrintiwr y Gymanwlad ac Alumni MSc Met Caerdydd​​

 

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd enw da am fod yn sefydliad sy’n cynnig llu o gymwysterau gradd mewn chwaraeon, am wneud gwaith ymchwil ym maes chwaraeon sy’n cael sylw rhyngwladol, ac am feithrin athletwyr a pherfformwyr o’r radd flaenaf. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gyrfa uwch, mae’r brifysgol hefyd wedi croesawu nifer o athletwyr Gemau’r Gymanwlad ar eu campws, gan gynnwys y brawd a’r chwaer Hannah a Joe Brier, y codwr pwysau Michaela Breeze, Gemma Frizelle a enillodd y fedal aur am gymnasteg rhythmig yn Birmingham 2022, y chwaraewr pêl-rwyd Chelsea Lewis, taflwr ddisgen a phwysau Aled Sion Davies, y sbrintiwr Mica Morre, y taflwr disgen Brett Morse, y taflwr pwysau Adel Nicoll, a ddaeth yn Bencampwr Prydain hefyd yn gynharach yn y mis, y sbrintiwr James Ledger a’r bocsiwr Olympaidd Rosie Eccles.​

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae Met Caerdydd a Thîm Cymru yn rhannu’r un gred sylfaenol, sef bod gan chwaraeon y nerth i newid bywydau trwy gefnogi athletwyr mwyaf talentog Cymru i berfformio ar lwyfan y byd. Gyda’r bwriad cyffredin hwn, a thrwy weithio mewn partneriaeth wirioneddol, gallwn greu sylfaen i feithrin rhagoriaeth genedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’n gilydd er mwyn adeiladu ar ein henw da am ragoriaeth academaidd ac am waith ymchwil sydd â bwriad a chyrhaeddiad byd-eang.”

Mae gan Met Caerdydd hen hanes o lwyddiant ym myd chwaraeon, ac ar ei rhestrau o gyn-fyfyrwyr ceir sawl un sydd wedi cystadlu yn Ewrop, yn Fyd-eang, yn y Gemau Olympaidd ac yng Ngemau’r Gymanwlad. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Brifysgol eu ‘Strategaeth 2030’, sy’n nodi bod chwaraeon yn flaenoriaeth strategol barhaus, ac sy’n datgan eu nod o gael eu penodi’n Brifysgol Chwaraeon Cymru.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru, Rebecca Edwards-Symmons: “Rydym wrth ein boddau o gael Met Caerdydd fel partner addysg uwch newydd. Mae hyn yn cynnig cymaint o gyfleoedd i gydweithio ac i gyd-greu. Bydd y bartneriaeth yn siŵr o fod yn gyffrous, yn llawn bwriad, a’n hirhoedlog. Mae tîm Met Caerdydd wedi bod yn hynod gefnogol, ac rydym yn eiddgar i gynllunio a datblygu prosiectau ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd.”