Skip to content

Cyfrannwr nodedig i gyllid yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

26 Gorffennaf 2024

Mae Frank Holmes, partner sefydlu Gambit Corporate Finance, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd heddiw (dydd Mercher 26 Gorffennaf).

Gyda dros 35 mlynedd o brofiad cyllid corfforaethol, mae Frank wedi codi dros £1.5Bn i gleientiaid ac wedi arwain nifer o drafodion sylweddol yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys pryniant gan y rheolwyr mwyaf yng Nghymru o £110m.

Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd Frank: “Mae hon yn anrhydedd amhrisiadwy ac rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig i dderbyn y wobr yma gan Brifysgol yr wyf wedi cael llawer o brofiadau gwych gyda hi mewn amrywiaeth o rolau dros 10 mlynedd. Rwyf wedi cwrdd â llawer o fyfyrwyr gwych, wedi gweithio ochr yn ochr â staff ymroddedig, yr Is-Ganghellor, Uwch Dîm Arwain a Llywodraethwyr o’r un anian, ac mae pob un ohonynt wedi cyfrannu at yr enw da y mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ei fwynhau heddiw.”

Cyn cyd-sefydlu Gambit, bu Frank yn rhedeg ei fusnes peirianneg ei hun, Curran Engineering.

Frank Holmes holding their Honorary Fellowship
Frank Holmes



Rhoddodd Frank gyngor i fyfyrwyr sy’n graddio o’r Ysgol Reoli heddiw: “Mae llwyddiant neu fethiant yn dibynnu ar y dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud, y risgiau rydyn ni’n eu cymryd, a’r canlyniadau rydyn ni’n barod i fyw gyda nhw, felly rhowch eich ofnau i’r ochr a chanolbwyntiwch ar yr agweddau positif.”

Dywedodd David Brooksbank, Deon yr Ysgol Reoli: “Mae Frank wedi rhoi llawer iawn o amser i’r Brifysgol dros y blynyddoedd yn ei rôl fel Llywodraethwr ac mae ei brofiad yn parhau i fod o gefnogaeth fawr mewn trafodaethau uwch gynllunio busnes. Yn benodol, helpodd gyda sefydlu cwmni deillio Met Caerdydd, Fovotec, gan gynnig cefnogaeth o’r cychwyn cyntaf a chynghori ar fodelau a strategaeth fusnes.

“Mae’n anrhydedd mawr cyflwyno gwobr Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Frank ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef ymhellach yn y dyfodol.”

Yn 2019, dyfarnwyd y wobr Cyfraniad Eithriadol i Gyllid yng Nghymru i Frank yng Ngwobrau Cyllid Cymru. Mae hefyd wedi ennill gwobr ICAEW am y Cyfrifydd Siartredig Gorau ac wedi ennill teitl Dealmaker of the Year deirgwaith gan Wales Business Insider​.​​