Arweinydd addysg, Dr Nishat Riaz MBE, yn cael Doethuriaeth er Anrhydedd
Cafodd yr arweinydd addysg, Dr Nishat Riaz (MBE), Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd heddiw (dydd Iau 27 Gorffennaf).
Mae gan Nishat dros 25 mlynedd o brofiad ym maes arweinyddiaeth addysg ac yn 2017 cafodd MBE am ei chyfraniad ym maes addysg. Mae hi wedi datblygu, rheoli a goruchwylio rhaglenni ar raddfa fawr ar iechyd, rhywedd, sgiliau, diwylliant ac addysg.
Yn ystod ei haraith yn Seremonïau Graddio Met Caerdydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dywedodd Nishat: “Heddiw, mae’n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi gael cysylltiad nodedig â’r sefydliad ysbrydoledig hwn. Gan fy mod yn dod o gymuned wledig, ynysig a bod y ferch gyntaf yn nheulu fy mam yn ogystal â theulu fy nhad i fynd i brifysgol, gan edrych yn ôl, ni allwn hyd yn oed ddychmygu bod yma, heb sôn am gael fy nghofrestru yn y sefydliad hwn fel myfyriwr ffurfiol. Mae’r Brifysgol yn estyn allan ataf yn fraint brin ac unigryw, anrhydedd y byddaf bob amser yn ei thrysori a’i pharchu.
“Rydw i’n cyflwyno’r wobr hon i’r bobl wych rydw i’n gweithio gyda nhw yn y Cyngor Prydeinig a’r miliynau o unigolion anhygoel rydyn ni’n gweithio iddyn nhw i helpu i greu byd heddychlon a llewyrchus.”
Nishat yw Pennaeth Byd-eang Systemau Addysg Uwch a Rhyngwladoli ar gyfer y Cyngor Prydeinig. Cyn y rôl hon, bu’n rheoli gwaith addysg y Cyngor Prydeinig ym Mhacistan, un o’r rhaglenni addysg mwyaf yng nghenadaethau’r DU ledled y byd.
Rhoddodd Nishat gyngor i fyfyrwyr oedd yn graddio heddiw: “Er ein bod yn dathlu eich ymdrech, eich gwytnwch a’ch ymrwymiad sy’n arwain at eich cyflawniadau ar y diwrnod graddio hwn, rhaid i ni gofio ein bod yn byw mewn byd sy’n sylfaenol anghyfartal, un nad yw’n gyfyngedig i ni’n unig. Yn anffodus, er gwaethaf yr holl ddatblygiadau gwyddonol a thechnolegol, nid yw’r byd yn wirioneddol deg, cynhwysol a chyfartal eto. Mae o leiaf dair miliwn o blant yn colli eu bywydau bob blwyddyn oherwydd diffyg maeth, gyda bron i 260 miliwn yn cael eu hamddifadu o addysg, heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain.
“Credaf na allwn ac na ddylem aros i rywun arall bontio’r bwlch rhwng y rhai sy’n freintiedig a’r rhai sydd heb ddim. A dyna pam, heddiw, yn y digwyddiad mawreddog hwn, ar yr achlysur hynod hwn, rwy’n gofyn i mi fy hun ac i bob un ohonoch feddwl am y newid cadarnhaol y gallem ei wneud o’n cwmpas. Gadewch i ni feddwl y tu hwnt i ni ein hunain a dod yn ffynhonnell cyfle i o leiaf un person o fewn ein cyrraedd. Coeliwch fi, mae gennych chi’r grym a’r angerdd i wneud hyn. Wrth i chi fynd allan o’r drws hwn, gallwch ddatgloi ac ysgogi’r pŵer hwnnw ac agor ffenestr fach o gyfleoedd i’r rheini sydd mewn angen ac yn llai breintiedig.”
Roedd angerdd ac ymrwymiad Nishat ynghylch datblygu systemau addysg hygyrch, cynhwysol a theg wedi helpu i ddatblygu diwygiadau addysg ar raddfa fawr gan gyrraedd miliynau o ddysgwyr ym Mhacistan.
Dywedodd Dr Fiaz Hussain, Deon Cyswllt Partneriaethau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae brwdfrydedd Nishat i helpu, arwain a thywys unigolion a sefydliadau i wireddu eu dyheadau yn ddiguro. Mae Nishat wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu partneriaethau sefydliadol cryf rhwng y DU a Phacistan, yn ogystal ag ymdrin â meysydd ysgolion, sgiliau, addysg uwch, ysgoloriaethau, yn amrywio o fodelau addysgol traddodiadol i raglenni cyfunol arloesol.
“Mae profiad Nishat hefyd wedi cyfrannu’n uniongyrchol at lwyddiant y prosiect B-International, y mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ei arwain. Mae’r prosiect wedi sefydlu Canolfannau Rhyngwladoli mewn pedair Prifysgol orau ym Mhacistan ac mae wedi darparu llwyfan i rannu ac archwilio arferion da rhwng partneriaid yn Ewrop a Phacistan. Mae gwobr heddiw yn dyst i waith Nishat a bydd yn cadarnhau ymhellach y berthynas ragorol sydd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd â’r Cyngor Prydeinig ym Mhacistan.”

Nishat oedd y peiriannydd benywaidd cyntaf o Dalaith Gilgit Baltistan i raddio gyda gradd mewn Peirianneg Electroneg. Mae ganddi hefyd MA mewn Datblygu Rhyngwladol o Brifysgol Manceinion a Phd mewn Gwyddorau Rheoli o Brifysgol Bahria, Pacistan.
Mae gwaith Nishat ym maes addysg wedi mynd â hi o amgylch y byd, gan siarad, ysgrifennu, cadeirio ac eiriol o blaid mynediad at addysg a llwyddiant addysg.
Yn ogystal â’i gyrfa broffesiynol, mae Nishat yn credu mewn gwaith gwirfoddol ac ers dau ddegawd a hanner mae hi wedi bod yn gysylltiedig â nifer o fudiadau cymdeithas sifil sy’n gweithio ym maes datblygiad cymdeithasol cymunedau. Mae Nishat yn briod ac mae ganddi dri o blant.