Skip to content

Anrhydeddu CFO Heddlu De Cymru yn graddio Met Caerdydd

25 Gorffennaf 2023

​​​​​​​​​Mae Umar Hussain MBE, Prif Swyddog Ariannol Heddlu De Cymru, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gyda 15 mlynedd yn Heddlu De Cymru, yn dilyn swyddi Cyfarwyddwr Cyllid yn Heddlu Swydd Lincoln a Heddlu Gwent, mae Umar yn darparu cyfeiriad, rheolaeth a chyngor strategol ar bob mater ariannol yn yr heddlu.

Wrth siarad am dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd Umar: "Rwy'n synnu ond yn falch iawn o gael fy enwebu i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae wedi mynd â fi yn ôl i ddyddiau fy ysgol uwchradd, lle mai gadael yr ysgol gyda rhai Lefel A oedd yr eithriad. Yn anffodus, roeddwn ymhlith y mwyafrif a adawodd heb ddim. Ar hyd coridorau fy ysgol roedd placiau gydag enwau disgyblion a aeth ymlaen i fod yn raddedigion prifysgol, rhywbeth oedd yn teimlo y tu hwnt i'w gyrraedd ar y pryd. Dyna pam mae cael ein cydnabod fel hyn gan Brifysgol mor uchel ei bri yn teimlo'n arbennig iawn."

Fel aelod o Fwrdd Arweinyddiaeth Busnes yn y Gymuned (BITC), mae Umar yn angerddol am gaffael moesegol a chynaliadwyedd - yr olaf yw un o flaenoriaethau strategol Met Caerdydd.

Dywedodd David Llewellyn, Prif Swyddog ym Met Caerdydd: "Mae Umar yn weithiwr cyllid proffesiynol profiadol sydd â hanes trawiadol. Mae wedi cael gyrfa hir a nodedig gyda'r heddlu, ar ôl gweithio i dri heddlu gwahanol. Bu Umar hefyd yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Met Caerdydd am chwe blynedd hyd at 2021 a gwnaeth gyfraniad sylweddol at bennu a gweithredu strategaeth Met Caerdydd sydd wedi arwain at welliannau sylweddol i gynaliadwyedd ac enw da'r Brifysgol.

"Mae'n anrhydedd mawr cyflwyno gwobr Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Umar ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef ymhellach yn y dyfodol."

Umar Hussain holding their Honorary Doctorate
Umar Hussain MBE, Prif Swyddog Ariannol Heddlu De Cymru​

 

Rhannodd Umar Hussain rywfaint o'i brofiad gyrfa i fyfyrwyr sy'n graddio, gan ddweud: "Rwy'n gwybod trwy gydol eich gyrfa y byddwch chi'n wynebu penblethau, a bydd rhai ohonynt ar gynnydd gyrfa. Rwyf wedi darganfod, o ystyried dewis rhwng dysgu mwy neu ennill mwy, mai dysgu mwy oedd y dewis tymor hir gwell. Gosodwch garreg filltir gyrfa i chi'ch hun bob degawd a chofiwch, bod cyrraedd mor bell â hyn eisoes yn gyflawniad gwych ond gall yr hyn sy'n aros y fod hyd yn oed yn well."