Met Caerdydd yn dymuno’r gorau i athletwyr a staff cymorth yng Ngemau’r Gymanwlad 2022
Yr wythnos hon, cynhaliodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd frecwast yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol ar gampws Cyncoed i ffarwelio â’r holl athletwyr a staff cymorth sy’n cymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad eleni, ac i ddymuno pob lwc iddynt.
Yn anhygoel, mae gan Met Caerdydd 40 o athletwyr a 12 staff cymorth yn cynrychioli Tîm Cymru, Lloegr, Guernsey a Jersey ar draws 11 camp, y mae pob un ohonynt wedi astudio neu weithio yn y Brifysgol. Mae gan Met Caerdydd enw rhagorol am greu athletwyr o safon fyd-eang mewn sawl disgyblaeth, ac mae’r amrywiaeth o chwaraeon a gynrychiolir yn dangos hynny.
O athletau i focsio a hoci i feicio, bydd Met Caerdydd yng nghanol y cystadlu o ddiwrnod cyntaf Gemau’r Gymanwlad, ac mae Stef Collins, sydd ei hun yn enillydd medal arian o’r Arfordir Aur yn 2018 lle’r oedd yn gapten ar Sgwad Pêl-fasged 5 bob ochr Lloegr, ac sydd nawr yn hyfforddi'r gêm 3 bob ochr, yn llawn cyffro i fod yn rhan:
“Mae Met Caerdydd yn gwneud gwaith gwych wrth eich cefnogi chi – mae gennych y cyfleusterau yma a’r staff cymorth a phopeth sy’n eich helpu i ddatblygu fel person ac fel athletwr, ac mae faint o lwyddiant a gafwyd o ran y nifer o athletwyr o Gymru sydd yn y Gemau hyn nawr yn brawf o hynny.”
Pan ofynnwyd iddi am feddylfryd Met Caerdydd, dywedodd Stef: “Mae un dywediad sydd wedi taro tant gyda fi erioed y profais fy hun yng Ngemau Olympaidd 2012, sef 'dyw gwell byth yn stopio'. Felly mae'n golygu gwybod, iawn, rydych chi wedi gwneud yr holl waith caled hyn ac rydych chi wedi mynd drwy'r broses o ble y gwnaethoch chi ddechrau i ble rydych chi wedi diweddu …. ond rydych chi eisiau mwy, rydych chi eisiau gweld beth arall y gallwch ei gyflawni."
Fe wnaeth Stef, sy’n gyn-Olympiad gyda Thîm GB, astudio gradd Meistr mewn Datblygu a Hyfforddi Chwaraeon ym Met Caerdydd ac mae bellach ar y staff fel hyfforddwr Tîm WBBL Saethwyr Met Caerdydd.
Siaradodd Dan Rabbitt (Jiwdo D60Kg) yn angerddol am sut y mae Met Caerdydd wedi ei helpu i baratoi at yr uchafbwynt chwaraeon hwn:
“Mae Met Caerdydd wedi rhoi’r hyder i mi siarad â’m darlithwyr am reoli fy amser rhwng astudio a hyfforddi ac fe wnaeth y cyfathrebu a’r ddealltwriaeth honno fy helpu i ddod drwy fy ngradd israddedig. Maen nhw wedi fy helpu i gydbwyso a rheoli fy amser mewn ffordd iach a hebddo, fyddwn i ddim lle rydw i heddiw.”
Wrth ffarwelio â’r athletwyr, dywedodd y Cyfarwyddwr Chwaraeon, Ben O'Connell:
“Mae cynrychiolwyr Met Caerdydd yng Ngemau’r Gymanwlad eleni’n dangos i ba raddau y mae chwaraeon wedi’i integreiddio i’n DNA. Fel Prifysgol, mae gennym safle cadarn ar y map byd-eang oherwydd ein cyfleusterau chwaraeon sydd heb eu hail, ymroddiad ein staff a’n system chwaraeon unigryw.
“Ar ran holl gymuned Met Caerdydd, hoffwn ddymuno pob lwc i’r holl athletwyr a staff cymorth ym Mirmingham. Rydych yn rhan o brifysgol arbennig ac rydyn ni'n hynod falch ohonoch chi i gyd.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnod sy’n arwain at Gemau'r Gymanwlad, dilynwch Chwaraeon Met Caerdydd ar Twitter ar @CMetSport ac Instagram ar cardiffmetsport yn ogystal â phrif ffrwd Twitter @MetCaerdydd.
Myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr Met Caerdydd sy’n cymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad 2022:
Jeremiah Azu |
Athletau |
100m |
Joe Brier |
Athletau |
400m |
Hannah Brier |
Athletau |
200m |
Piers Copeland |
Athletau |
1500m |
Jenny Nesbitt |
Athletau |
5000m |
Aled Siôn Davies |
Athletau |
Disgen, F42-44/F61-64 |
Jake Hayward |
Athletau |
1500m |
Jonny Hopkins |
Athletau |
3000m Ffos a Pherth |
Adele Nicoll |
Athletau |
Taflu Pwysau |
Julie Rogers |
Athletau |
Disgen, F42-44/F61-64 |
Harrison Walsh |
Athletau |
Disgen, F42-44/F61-64 |
Charlotte Arter |
Athletau |
10000m |
Rosie Eccles |
Bocsio |
70Kg |
Harvey McNaughton |
Beicio |
Ymlid Tîm, Kilo |
Daniel Rabbitt |
Jiwdo |
D60Kg |
Jasmine Hacker-Jones |
Jiwdo |
D63Kg |
Ashley Barnikel |
Jiwdo |
D48kg |
Fay Pitman |
Codi Pwysau |
71Kg |
Iestyn Harret |
Triathlon |
Ras gyfnewid gymysg ac unigol |
Isabel Morris |
Triathlon |
Menyw Unigol |
Rhys James |
Triathlon |
Tywysydd |
Gemma Frizelle |
Gymnasteg |
Rhythmig |
Gareth Furlong |
Hoci - Dynion |
Chwaraewr |
Dale Hutchinson |
Hoci - Dynion |
Chwaraewr |
Joe Naughalty |
Hoci - Dynion |
Chwaraewr |
Luke Hawker |
Hoci - Dynion |
Chwaraewr - Capten |
James Carson |
Hoci - Dynion |
Chwaraewr |
Jo Westwood |
Hoci - Merched |
Chwaraewr |
Livvy Hoskins |
Hoci - Merched |
Chwaraewr |
Ella Jackson |
Hoci - Merched |
Chwaraewr |
Jade Atkin |
Cadair Olwyn 3 bob ochr |
Chwaraewr |
Ollie Turner |
Jersey |
Triathlon |
Josh Lewis |
Guernsey |
Triathlon |
Suzy Drane |
Pêl-rwyd |
Chwaraewr / cyd-gapten |
Nia Jones |
Pêl-rwyd |
Chwaraewr / cyd-gapten |
Bethan Dyke |
Pêl-rwyd |
Chwaraewr |
Georgia Rowe |
Pêl-rwyd |
Chwaraewr |
Owen Jenkins |
Rygbi 7 bob ochr |
Chwaraewr |
Sam Cross |
Rygbi 7 bob ochr |
Chwaraewr |
Staff Cymorth |
|
|
Nick Wakely |
URC |
Hyfforddwr Cynorthwyol |
Matt Elias |
Athletau Guernsey |
Hyfforddwr |
Stef Collins |
Pêl-fasged Lloegr – 3 bob ochr |
Hyfforddwr |
Rhi Galvin |
Hoci - Merched |
Dadansoddwr |
Rebecca Daniels |
Hoci - Merched |
Rheolwr Rhaglen |
Danny Newcome |
Hoci - Dynion |
Prif Hyfforddwr |
Alison Harrison |
Pêl-rwyd |
Dyfarnwr |
Sara Moore |
Pêl-rwyd |
Prif Hyfforddwr |
Gemma Davies |
Pêl-rwyd |
Dadansoddwr Perfformiad |
James Thie |
Athletau |
Hyfforddwr |
Ryan Spencer-Jones |
Athletau |
Hyfforddwr |
Nathan Stephens |
Athletau |
Chwaraeon Anabledd Cymru - Arweinydd Llwybr Perfformiad |
Staff Tîm Cymru |
|
|
Cathy Williams |
Tîm Cymru |
Pennaeth Ymgysylltu |
Anna Stembridge |
Tîm Cymru |
Cyfarwyddwr Anweithredol |
Dr Dan Clements |
Tîm Cymru |
|