Marwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II
Neges gan yr Is-Ganghellor yr Athro Cara Aitchison
Ar ran holl staff a myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yma yng Nghaerdydd a ledled y byd, hoffwn ymuno â gweddill y wlad i fynegi fy nhristwch dwysaf yn y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi, Brenhines Elizabeth II.
Teyrnasodd Ei Mawrhydi am fwy o amser nag unrhyw frenin/brenhines arall yn hanes Prydain ac mae'n cael ei pharchu ledled y byd am ei hurddas a'i hymrwyddiad i’r dyletswydd.
Gwasanaethodd y Frenhines Elizabeth ei gwlad gydag ymroddiad enfawr ac, fel pennaeth y DU a'r Gymanwlad yn ystod cyfnodau o newid cymdeithasol enfawr, parhaodd yn gadarn wrth gyflawni ei dyletswyddau Brenhinol drwy gydol ei theyrnasiad 70 mlynedd.
Estynnir ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu Brenhinol ar yr adeg drist hon.