Chwaraeon Glân
Ein hymrwymiad i Chwaraeon Glân
Mae gan bawb sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yr hawl i gystadlu mewn chwaraeon heb gyffuriau (Chwaraeon Glân).
Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi safbwynt Gwrth-Gyffuriau'r DU (UKAD) a Gwrth-Gyffuriau'r Byd (WADA) sef bod twyllo, gan gynnwys dopio, mewn chwaraeon yn groes i ysbryd cystadlu.
Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i’r canlynol:
- Cefnogi cenhadaeth UKAD a WADA
- Darparu addysg a chyngor a gymeradwywyd gan UKAD i'n holl athletwyr a hyfforddwyr
- Disgwyliad y bydd pob athletwr, hyfforddwr a phersonél cymorth yn ymddwyn yn unol â disgwyliadau rhaglen 100% ME UKAD
- Gweithio gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol ym maes chwaraeon i gefnogi cenhadaeth UKAD a WADA ac atal cyffuriau mewn chwaraeon.
- Peidio â goddef, cynorthwyo na chefnogi'r defnydd o sylweddau a dulliau gwaharddedig (oni chaniateir hynny gan yr
- Esemptiad Defnydd Therapiwtig) mewn unrhyw agweddau ar eu gwaith.
- Sicrhau y bydd unrhyw un sy'n torri'r Cod Ymddygiad Chwaraeon yn cael eu cyfeirio at yr asiantaeth fewnol neu allanol briodol.
- Rhoi gwybod, yn gyfrinachol, i linell gymorth UKAD Doping in Sport am unrhyw ddigwyddiad y mae staff yn ymwybodol ohono sy'n ymwneud yn uniongyrchol â Chwaraeon Met Caerdydd a'r defnydd o sylweddau gwaharddedig.
- Cynnal unrhyw sancsiynau a roddir ar athletwr gan UKAD neu gyrff priodol eraill yn unol â chod WADA.