BSc Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol | Cardiff Metropolitan University Skip to content

Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) - Gradd BSc (Anrh)

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2025 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.

About the Course

​​​​​​​Mae’r cwrs hwn yn canolbwy​ntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o chwaraeon drwy gyfrwng dwyieithog. Er y caiff rhan o’r cwrs ei gyflawni drwy gyfrwng y Saesneg, bydd y rhan fwyaf o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi’i gynllunio i foddhau’r galw cynyddol am raddedigion sydd â chymwyseddau a chymwysterau dwyieithog.

O ran y cynnwys, mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i chi ddeall ac archwilio chwaraeon o amrywiaeth o safbwyntiau disgyblaethol. Er enghraifft, byddwch yn dysgu am:

  1. Y broses hyfforddi (ymarferol a damcaniaethol)
  2. Arwyddocâd diwylliannol-gymdeithasol a moesegol chwaraeon a gweithgaredd corfforol
  3. Y materion sy’n gysylltiedig â darparu addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o bersbectif addysgol
  4. Maeth poblogaeth a chwaraeon

Er bod y cwrs yn cynnig ystod eang o bynciau ac agweddau disgyblaethol, eto i gyd bydd y cwricwlwm yn eich galluogi i ganolbwyntio ac i arbenigo wrth i chi symud drwy’r tair blynedd o astudio academaidd. Yn ogystal â’r fframwaith academaidd damcaniaethol ac ymarferol cynhwysfawr, cewch eich annog i adeiladu portffolio o gymwysterau hyfforddi UKCC, dysgu ar leoliad gwaith a phrofiadau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd ar-gampws y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw ac mae cysylltiadau rhagorol gan y Met â Chwaraeon Caerdydd a’r ysgolion a’r awdurdodau lleol sydd o’n cwmpas.

Mae myfyrwyr sy’n astudio y cwrs hwn yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae nifer o ysgoloriaethau o £1000 a £500 y flwyddyn ar gael. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth: https://colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/prifysgol/ysgoloriaethau/​​

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder​.

​Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i​:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

​Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen​​.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon​.

Blwyddyn Un

Yn y flwyddyn gyntaf (Lefel 4), Ymgymerwch â chwe modiwl gorfodol, pump o’r rheini drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r modiwlau hyn y cynnig cyflwyniad cyffredinol i astudiaethau academaidd ym maes chwaraeon, gan ganolbwyntio ar hyfforddi, gwyddor chwaraeon, addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid, a materion cyfoes mewn chwaraeon ac addysg gorfforol.

Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn cynnig cyfle i chi hefyd ymarfer a datblygu eich sgiliau academaidd. Fe’ch cyflwynir hefyd i’r proses ymchwilio ym maes chwaraeon ac ymgymerwch â dau fodiwl ymarferol o’ch dewis (cyfrwng Saesneg).

  • ​Ymchwil ac Ysgolheictod*
  • Addysg Chwaraeon Cymhwysol
  • Dwyieithrwydd*
  • Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles*
  • Materion mewn Chwaraeon, Cymdeithas ac Addysg*
  • Addysg Gorfforol, Hyfforddi Chwaraeon ac Addysgeg*

Blwyddyn Dau

Yn yr ail flwyddyn (Lefel 5), datblyga myfyrwyr yn bellach eu gwybodaeth a dealltwriaeth o ran ein tair elfen allweddol, sef, hyfforddi/addysgu, maeth a materion moesegol. Bydd gofyn iddynt astudio o leiaf pum modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymgymera myfyrwyr â dau fodiwl ymarferol o’u dewis (cyfrwng Saesneg).

  • Dylunio a Phractis Ymchwil*
  • Addysg Chwaraeon Cymhwysol
  • Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles*
  • Addysg Gorfforol ac Iechyd yn Ymarferol*
  • Moeseg Chwaraeon*
  • Maeth*

Blwyddyn Tri

Yn y drydedd flwyddyn (Lefel 6), cwblhewch brosiect terfynol drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n rhoi sylw i bwnc ymchwil mewn maes o’ch dewis. Bydd cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ymchwilio, cyfathrebu a datrys problemau.

  • Prosiect Terfynol*
  • Lleoliad Diwydiant*
  • Addysg Gorfforol, Iechyd a Lles Uwch*
  • Maeth mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff*

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn tanategu’r nodau addysgol a chanlyniadau dysgu ein rhaglenni a’n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Rhith-Amgylchedd Dysgu (Moodle) yn agwedd annatod o’r pecyn dysgu sydd yn cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae prif ddarlithoedd yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn ffocysu ar y cymhwysiad o gysyniadau allweddol gyda’r nod o wella profiadau ac ymrwymiad myfyrwyr. Cwrddwch â thiwtoriaid ar sail un-i-un. Fel Ysgol, gweithiwn yn galed darparu cyfleoedd dysgu a ganolbwyntir ar y myfyriwr sydd yn darparu amgylchedd dysgu hyblyg o safon.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso’r datblygiad o’ch ymresymu beirniadol tra’n annog y cyfaniad o bractis a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu o dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig. Rydym yn annog i chi ddatblygu agwedd cadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae sgiliau ‘EDGE’ Met Caerdydd (Ethical, Digital, Global and Entrepreneurial) yn rhan allweddol o’n dulliau addysgu a dysgu. Byddwch yn gymwys iawn dangos priodoleddau graddedig a ddisgwylir yn y byd gwaith Cystadleuol. Ein bwriad yw eich helpu datblygu’n broffesiynolwyr adfyfyriol ac ysgolheigion beirniadol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, cewch brofiad dysgu o gynefino i raddio sydd yn gydlynol ac yn datblygu’ch hunaniaeth o fewn eich rhaglen astudio.

Nodweddion penodol o’r profiad dysgu ar Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (AChAG) yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr dawnus a hyfforddwyr o safon elitaidd sydd yn rhan annatod o’r amgylchedd dysgu unigryw hwn
  • Cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi Lefel 1 a 2
  • Cyfleusterau rhagorol sydd yn optimeiddio profiadau myfyrwyr
  • Cyfle i wella’ch Cymraeg trwy astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith.

Mae’r rhaglen hon yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu i roi ein myfyrwyr y profiad dysgu gorau.

Trwy asesu y gallwn dystio eich bod wedi cyflawni amcanion dysgu’r modiwlau yn ôl FHEQ a CQFW. Mae asesiadau yn cefnogi eich profiad dysgu gan ddarparu cyfleon i chi gael adborth ffurfiannol a chrynodol sydd yn profi’ch gwybodaeth, gallu, sgiliau a dealltwriaeth feirniadol. Asesir y modiwlau israddedig trwy gyfuniad o:

  • Gwaith cwrs ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau poster
  • Cyflwyniadau llafar
  • Portffolios
  • Arholiadau na/a welir
  • Sgiliau ymarferol
  • Gweithgareddau eraill sydd yn asesu, datblygu, gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o’ch blwyddyn olaf ar y radd er anrhydedd. Gall prosiectau terfynol fod yn ymchwil, arloesedd, ymgynghoriaeth neu brosiect cymunedol.

Mae ‘EDGE’ Met Caerdydd yn eich paratoi am llwyddo yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd, cewch ystod o gyfleon i ddatblygu’ch galluoedd ‘Ethical, Digital, Global & Entrepreneurial’ trwy dysgu seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos y byd go iawn, profiad gwaith ar gampws a lleoliadau gwaith oddi ar gampws. Sicrhawn y cewch ystod o gyfleon i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, cydweithio ac arwain.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf y cewch gyfle i ennill cymwysterau technegol mewn ystod o feysydd rhaglen-benodol, gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, ymarfer corff ac iechyd a diogelwch. Sicrha’r cyfleon hyn fod y cymwysterau perthnasol gennych er mwyn ymgeisio am lawer o gyfleon lleoliad gwaith ar gael ar/oddi ar gampws. Helpwn fyfyrwyr i chwilio am gyfleon i astudio/gweithio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi i chi ‘EDGE’ pwysig o ran cael swydd wedi graddio. Mae graddedigion AChAG wedi ennill cyflogaeth yn y meysydd canlynol: cyfryngau, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol. Mae llawer o’n graddedigion yn parhau’n y Brifysgol ar gwrsiau ôl-raddedig (TAR, Meistr a Doethuriaeth.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 96 - 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: Tair Safon Uwch i gynnwys Graddau B. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Gradd C. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers​.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Cysylltwch â Gweinyddwr yr Ysgol i holi am unrhyw gwrs penodol:

  • UCAS Code

    UT9H (3-year degree), UT9F (4-year degree including foundation year)

  • Location

    Cyncoed Campus

  • School

    Cardiff School of Sport & Health Sciences

  • Duration

    3 years full time or 4 years full time including foundation year.
    Also available part time and can be up to 8 years. The part-time students join the full-time students for all modules. Therefore most of the modules are completed between 9am and 6pm on weekdays.