Er mwyn paratoi ar gyfer y rhaglen TAR, mae eich gwybodaeth ar gyfer ymuno ar gael drwy'r dolenni isod.
TAR Addysg Gynradd
Gwybodaeth Ymuno
Bydd y wybodaeth isod ar gael o fis Awst ymlaen a dylech ei darllen pan fyddwch wedi derbyn cynnig Diamod Cadarn yn unig.
Gwybodaeth Sefydlu a Chofrestru
Eich Rhestr Wirio cyn i chi gyrraedd:
- Rwyf wedi cwblhau'r broses am wiriad manylach gan y DBS ar-lein
- Rwyf yn gwybod pryd a ble i fynychu ar ddydd Llun 9 Medi
- Rwyf wedi cofrestru ar-lein yn llwyddiannus:
www.cardiffmet.ac.uk/enrolment (fydd yn gymwys wedi i'r cais DBS gael ei wirio gan yr Uned Derbyniadau)
- Rwyf wedi darllen a deall y Termau ac Amodau o fy nghais:www.cardiffmet.ac.uk/terms
TAR Addysg Uwchradd
Er mwyn paratoi ar gyfer y rhaglen TAR Uwchradd, mae eich gwybodaeth ar gyfer ymuno ar gael drwy'r dolenni isod.
Gwybodaeth Ymuno
Gwybodaeth Benodol am y Cwrs
Ffurflen Gwybodaeth Lleoliad - i'w gwblhau erbyn Mehefin 28
Bydd y wybodaeth isod ar gael o fis Awst ymlaen a dylech ei darllen pan fyddwch wedi derbyn cynnig Diamod Cadarn yn unig.
Gwybodaeth Sefydlu a Chofrestru
Gwybodaeth Penodol am y Cwrs
Eich Rhestr Wirio cyn i chi gyrraedd:
Rwyf wedi cwblhau'r cais am wiriad manylach gan y DBS ar-lein
Rwyf yn gwybod pryd a ble i fynychu ar dydd Llun 9 Medi.
- Rwyf yn ymwybodol bod gofyn i mi ymgymryd ag
archwiliadau diagnostig llythrennedd a rhifedd yn ystod y pythefnos sefydlu er mwyn adnabod unrhyw anghenion cymorth ychwanegol
Rwyf wedi cofrestru'n llwyddiannus ar-lein:
www.cardiffmet.ac.uk/enrolment (sy'n gymwys wedi i'r cais DBS gael ei wirio gan yr Uned Derbyniadau)
Rwyf wedi darllen a deall y Termau ac Amodau o fy nghynnig:
www.cardiffmet.ac.uk/terms
Cofrestru
Mae cofrestru'n broses angenrheidiol sy'n cadarnhau eich statws fel myfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae cofrestru hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad i'ch gwybodaeth talu ffioedd, eich systemau gwybodaeth am raglenni ac yn eich galluogi i gael eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr.
Er mwyn hunan gofrestru ar-lein, rhaid eich bod wedi cael cynnig Diamod Cadarn a rhaid i chi gael eich gwiriad manylach gan y DBS wedi'i glirio a'i gadarnhau gan yr Uned Derbyniadau. Byddwch yn derbyn e-bost ym mis Gorffennaf gyda rhagor o wybodaeth ynglŷn â chofrestru.
Cyllid
Am wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais trwy Gyllid Myfyrwyr os oes angen cyllid arnoch ar gyfer eich ffioedd dysgu, cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ar gyfer Hyfforddiant Athrawon yng Nghymru, cliciwch yma.
Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r cymhelliannau i Brifysgol Metropolitan Caerdydd sydd yn talu'r swm perthnasol i fyfyrwyr cymwys yn fisol. Nid oes rhaid i chi wneud cais ar gyfer y cymhelliant. Os ydych yn gymwys ac wedi cofrestru a dechrau eich hyfforddiant yn llwyddiannus, caiff y rhandaliadau eu talu'n uniongyrchol i chi. Byddwch yn derbyn eich rhandal cyntaf yn mis Rhagfyr ac yna'n fis Mawrth, gyda rhandal dwbl terfynol ym mis Mehefin.
Return to the English version of this site.