Mae prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi helpu cwmnïau becws i ymgorffori cynhwysion arloesol yn eu cynhyrchion i'w gwneud yn iachach. Mae hyn mewn ymateb i gyfarwyddebau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru.
Daeth Prosiect Hexagon â phedwar cwmni becws yng Nghymru at ei gilydd i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr datblygu cynnyrch newydd o Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Univar Solutions, cwmni cynhwysion byd-eang.
Gan ddefnyddio cynhwysion gan Univar Solutions, cynhaliodd ZERO2FIVE nifer o dreialon llwyddiannus ar gyfer pob cwmni i'w helpu i ddatblygu eu cynhyrchion. Roedd y rhain yn cynnwys cyfoethogi bara heb glwten gwneuthurwr brechdanau Panini's gyda phrotein a helpu The Bake Shed i wneud eu teisennau brau caramel moethus heb glwten yn llai briwsionllyd.
Roedd La Crème Patisserie, sy'n gweithio o Gwmbrân, eisiau datblygu datrysiad cyfrwng setio fegan i'w ddefnyddio yn eu dewis o gacennau caws, mousses a phanna cottas gan fod eu cynnyrch presennol yn setio'n feddal iawn. Yn dilyn treialon, nododd y cwmni ddau sefydlogydd a chyfrwng tewychu seiliedig ar blanhigion a roddodd y perfformiad cynnyrch dymunol.
Dywedodd Sian Hindle, La Crème Patisserie:
"Mae wedi bod yn wych galw ar arbenigedd technegol ZERO2FIVE a gweithio gyda gwneuthurwr cynhwysion na fyddwn i fel arfer yn cael mynediad iddo. Mae hyn wedi fy ngalluogi i greu cynhyrchion arloesol y mae fy nghwsmeriaid yn eu mynnu fwyfwy, a gobeithiaf y bydd hyn yn arwain at fwy o werthiannau a marchnadoedd."
Dywedodd yr Athro David Lloyd, Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:
"Mae Prosiect Hexagon wedi datblygu atebion arloesol i nifer o heriau iechyd pwysig. O ryseitiau siwgr gostyngol i feganau a dietau rhydd, rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r cwmnïau i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach."
Dywedodd Gary Abraham, Pennaeth Rheoli Cyflenwyr EMEA, Univar Solutions:
"Fe wnaethom fwynhau cydweithio â ZERO2FIVE i symleiddio prosesau ac agor posibiliadau datblygiadau newydd ar gyfer twf. Roedd ein data cudd-wybodaeth marchnad uwch a'n dadansoddiadau ynghyd â gwybodaeth ZERO2FIVE yn profi'n werthfawr wrth i ni ragweld tueddiadau ac ysgogi twf trwy gyfres o gynhyrchion newydd."
I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan
yma.