Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Chadwch Gymru’n Daclus wedi lansio ymgyrch newydd i leihau gwastraff cwpanau a hybu ailgylchu wrth fynd.
Gyda chymorth gan y Paper Cup Recycling and Recovery Group (PCRRG), mae biniau cwpanau neilltuol wedi cael eu cyflwyno ar draws campws Llandaf i annog yfwyr te a choffi i ailgylchu wrth iddynt symud o gwmpas y brifysgol.
Bydd yr holl gwpanau sy’n cael eu defnyddio’n cael eu casglu, eu prosesu a’u trawsnewid gan Simply Cups, cwmni ailgylchu arbenigol yn y DU.
Mae cwpanau untro’n anodd eu hailgylchu oherwydd eu leinin mewnol plastig. Yn y DU, amcangyfrifir bod 2.5 biliwn o gwpanau untro’n cael eu taflu bob blwyddyn, gyda’r mwyafrif helaeth - tua 99.75% - ddim yn cael eu hailgylchu.
Yr ymgyrch hon yw’r datblygiad diweddaraf yn ymgais Prifysgol Metropolitan Caerdydd i hybu cynaliadwyedd ar draws ei holl weithgareddau.
Dywedodd Rachel Roberts, Rheolwr Perfformiad Amgylcheddol ym Met Caerdydd: "Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gynaliadwyedd ym Met Caerdydd - ar hyn o bryd, ni yw’r 8fed yn y DU a’r 1af yng Nghymru yng Nghynghrair Pobl a Phlaned Werdd ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu ein llwyddiant. Rydym yn falch iawn mai ni yw prifysgol gyntaf Cymru i weithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus, PCRRG a Simply Cups ar y cynllun peilot cyffrous hwn fydd, gobeithio, yn lleihau nifer y cwpanau tafladwy sydd yn mynd i safleoedd tirlenwi yn sylweddol."
Yn ogystal â’i wneud yn hawdd i bobl ailgylchu gyda biniau trawiadol, siâp cwpan, bydd yr ymgyrch yn annog pobl i newid i ddefnyddio cwpanau amldro a gwneud defnydd o gyfleusterau ail-lenwi dŵr helaeth y brifysgol.
Dywedodd Hanna Jones, Swyddog Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus, sydd yn cydlynu’r prosiect: "Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Met Caerdydd i helpu i leihau gwastraff cwpanau untro ar gampws Llandaf. Mae’n amlwg bod y staff a’r myfyrwyr eisiau gwneud y peth iawn o ran gofalu am yr amgylchedd. Pan nad oes gan bobl gwpanau amldro, mae’n bwysig ein bod yn ei wneud mor hawdd â phosibl iddynt ailgylchu. Mae’n gyffrous gwybod y bydd yr holl gwpanau sy’n cael eu casglu’n cael eu troi’n ddeunyddiau ail fywyd - o gyflenwadau swyddfa a meinciau picnic, i gwpanau amldro newydd sbon. Byddwn yn monitro’r effaith yn ofalus, gyda’r nod o efelychu rhannau llwyddiannus o’r ymgyrch mewn ardaloedd eraill."
I ddarllen y stori yma'n Saesneg, cliciwch fan yma.