MAE Tîm Pêl-droed Merched Met Caerdydd wedi sicrhau lle yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA ar ôl blwyddyn ragorol arall i dimau pêl-droed Met Caerdydd.
Mae gwaith caled Tîm Pêl-droed Merched Met Caerdydd wedi eu harwain nhw i Slofenia, lle byddan nhw'n chwarae gemau grŵp rhwng dydd Sadwrn ac 13 Awst. Mae hyn yn dilyn blwyddyn lwyddiannus i dimau pêl-droed Met Caerdydd ar ôl i dîm y dynion gyrraedd Lwcsembwrg ar gyfer Cynghrair Europa UEFA ym mis Mehefin.
Cymerodd y merched y cam cyntaf tuag at Gynghrair y Pencampwyr ym mis Mehefin pan enillon nhw gemau yn erbyn Tîm Merched Tref Cheltenham a Buckland Athletic LFC, gan guro'r ddau dîm o 3-0.
Bydd y tîm, sy'n bencampwyr Uwch Gynghrair Merched Cymru Orchard, yn chwarae ŽNK Pomurje, tîm lleol y gystadleuaeth, yn ei gêm gyntaf ddydd Sadwrn. Dridiau yn ddiweddarach, bydd Tîm Pêl-droed Merched Met Caerdydd yn chwarae tîm Hibernian o'r Alban, cyn dod â'r gemau grŵp i ben gyda gêm yn erbyn WFC Nike o Georgia ar 13 Awst cyn dychwelyd adref i Gaerdydd.
Bydd y tîm yn cael ei gefnogi gan Utilita Energy sydd wedi ymestyn ei nawdd o dîm dynion y brifysgol i gynnwys tîm y merched. Bydd Utilita yn darparu crysau i'r tîm ar gyfer eu hymgyrch yn Ewrop eleni ac ar gyfer rhaglen y gynghrair a'r gwpan y tymor nesaf.
Meddai Mike Davies, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd: "Rydyn ni i gyd yn falch iawn o'r tîm a phopeth maen nhw wedi'i gyflawni. Maen nhw i gyd wedi ymarfer mor galed hyd yma ac rydyn ni wrth ein boddau eu bod nhw ar eu ffordd i Slofenia.
"Rydyn ni'n hynod falch i'w cael nhw yn cynrychioli'r Brifysgol a byddwn yn eu cefnogi nhw bob cam o'r ffordd. Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc iddyn nhw."
Meddai rheolwr Tîm Pêl-droed Merched Met Caerdydd, Dr Kerry Harris, sydd hefyd yn cyflwyno modiwlau ym maes addysgeg a hyfforddi chwaraeon yn y Brifysgol ac sy'n gyn-fyfyriwr yno: "Rwy'n hynod falch o'r tîm a'u hymrwymiad i'r tîm a'r sesiynau ymarfer. Does dim un tîm o Gymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA o'r blaen, ac rwyf i wedi bod yn atgoffa'r merched o hynny drwy'r amser – mae'r ffaith hon wedi ein hysgogi ni a bydd yn ein helpu ni i lwyddo yn Slofenia. Does dim rheswm pam na allwn ni fod y cyntaf."
I ddarllen y stori yma yn Saesneg, cliciwch fan hyn.