Skip to content

Cyfleusterau'r Ysgol Reoli Caerdydd

A young woman leans on the railing of a mezzanine in the Cardiff School of Management A young woman leans on the railing of a mezzanine in the Cardiff School of Management
01 - 02
Two students walk down the stairs of the Cardiff School of Management Two students walk down the stairs of the Cardiff School of Management

Ein Cyfleusterau

Mae adeilad Ysgol Reoli Caerdydd ar Gampws Llandaf yn ymgorffori ein cenhadaeth i ysbrydoli arweinwyr diwydiant y dyfodol wrth ddarparu amgylchedd dysgu hynod gefnogol.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys ein Ffug Lys, ein Hystafell Letygarwch bwrpasol a chanolfannau TG penodedig â mynediad at feddalwedd arbenigol a phroffesiynol sy’n eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ac ennill profiad ymarferol fel rhan o’ch astudiaethau.

01 - 04
Ffug Llys

Rhowch theori gyfreithiol ar waith yn ein ffug lys pwrpasol. Cewch eich cefnogi, trwy ddulliau sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, i barhau i ddatblygu eich sgiliau mewn cydweithredu, cyfathrebu’n effeithiol, ymchwil cyfreithiol a siarad cyhoeddus.

Ystafell Lletygarwch

Mae ein hystafell letygarwch bwrpasol ar y safle a’n ceginau Diwydiannol cyffiniol yn caniatáu i’r myfyrwyr hynny sy’n astudio ein graddau Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau gymhwyso theori’n ymarferol.

Eisiau mynd ar daith o amgylch ein cyfleusterau a'n hadeilad?
Dewch i'n gweld yn ein Diwrnodau Agored.

Archebu eich lle