Skip to content

Cyfweliadau a Phortffolios

A young adult adjusts a piece of fabric dressed on a mannequin A young adult adjusts a piece of fabric dressed on a mannequin
01 - 02

Rydym yn cynnig lleoedd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn seiliedig ar broses gyfweld. Nid canlyniadau arholiadau yw’r unig ystyriaeth - rydyn ni eisiau gwybod mwy amdanoch chi fel person, ac fel artist, dylunydd neu wneuthurwr.

Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein cwricwlwm rhyngddisgyblaethol arloesol a’n cymuned amrywiol a chreadigol o fyfyrwyr a staff yn addas ar eich cyfer chi.

Rydym yn chwilio am dystiolaeth o'ch brwdfrydedd, eich creadigrwydd a'ch chwilfrydedd, ynghyd â'ch sgiliau a'ch potensial fel unigolyn sy’n meddwl yn greadigol ac yn feirniadol ac artist, dylunydd neu wneuthurwr.

Mae'r broses gyfweld yn amrywio gan ddibynnu ar ba gwrs rydych chi wedi gwneud cais amdano, ond mae'r mwyafrif yn cynnwys adolygiad o'ch portffolio gwaith a sgwrs gyda'r tîm pwnc.

Mae rhai o'n cyfweliadau yn un-i-un tra gall eraill gynnwys ymarferion grŵp. Mae pob un o'n cyfweliadau yn anffurfiol - rydyn ni am i chi deimlo'n hamddenol ac yn ddigon cyfforddus i fod chi eich hun.

Rydym yn cynnal ein cyfweliadau ar-lein ar hyn o bryd a byddwn yn gofyn am bortffolio electronig i'w drafod gyda chi fel rhan o'r cyfweliad. Byddwn wedyn hefyd yn cynnal diwrnodau ymgeiswyr yn y Gwanwyn i roi’r cyfle perffaith i chi ymweld â’n campws, gweld ein cyfleusterau a chael blas llawn o’ch dewis gwrs.

Gweler ein hadran Awgrymiadau Portffolio i gael gwybodaeth ar sut i greu portffolio electronig sylfaenol.

Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut i gael y gorau o'ch cyfweliad yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd:

  • Gwnewch eich gwaith ymchwil – gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr holl wybodaeth ar ein gwefan am y cwrs rydych chi'n gwneud cais amdano cyn eich cyfweliad. Rydym yn argymell eich bod yn gwylio'r cyflwyniad fideo am y cwrs o'ch dewis trwy ein sgyrsiau cwrs ar-lein. Gallech hefyd edrych ar ein ffrwd Instagram a Blogiau Myfyrwyr.
  • Paratowch rai cwestiynau – gofynnwch i ni am bethau fel lleoliadau gwaith ac astudio ymhellach ar ôl eich gradd, neu unrhyw beth arall yr hoffech chi ei wybod am astudio gyda ni.
  • Byddwch chi eich hun – nid yw'n gyfweliad swydd ffurfiol, felly nid ydym yn disgwyl i chi wisgo siwt! Rydyn ni am gwrdd â chi fel ydach chi mewn gwirionedd.
  • Byddwch yn brydlon – gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen yr holl wybodaeth rydyn ni'n ei hanfon atoch a chaniatáu digon o amser i baratoi. Byddwch chi'n perfformio'n llawer gwell os nad ydych chi dan straen am eich bod yn hwyr. Os oes problem yn codi a'ch bod yn meddwl y gallech fod yn hwyr, cysylltwch â ni a gadewch i ni wybod cyn gynted â phosibl.

Casgliad o'ch gwaith ydy’ch portffolio. Gall gynnwys darnau rydych chi wedi gweithio arnyn nhw yn yr ysgol neu'r coleg, a gwaith personol rydych chi wedi'i greu i chi'ch hun. Dyma rai awgrymiadau ar sut i wneud y gorau o'ch portffolio:

Beth i'w gynnwys yn eich portffolio

Mae'n syniad da teilwra'ch portffolio i'r cwrs rydych chi'n gwneud cais amdano, ond mae yna rai pethau cyffredinol sy'n ddefnyddiol i'w cynnwys ni waeth pa bwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo:

  • Tystiolaeth o ystod dda o sgiliau celf a dylunio. Gallai hyn gynnwys gwneud marciau 2D fel lluniadu, paentio, cyfansoddi, a/neu enghreifftiau o wneud 3D - gwrthrychau, cerflunio, tecstilau, cynhyrchion ac ati. Gallwch hefyd gynnwys dolenni i waith delwedd symudol a gynhelir ar wefannau fel Vimeo neu YouTube.
  • Cynhwyswch syniadau cychwynnol, brasluniau a datblygiad ynghyd â darnau gorffenedig. Dylai roi mewnwelediad inni o'ch diddordebau, sgiliau a chreadigrwydd.
  • Mae’r ansawdd llawer pwysicach na pha mor swmpus yw’r portffolio. Rhan o baratoi portffolio da yw penderfynu beth i'w adael allan - yn hytrach na dangos i ni bopeth rydych chi wedi'i wneud erioed, dewiswch eich darnau gorau a mwyaf perthnasol.
  • Dangoswch eich arbrofion i ni. Cynhwyswch enghreifftiau lle gwnaethoch roi cynnig ar rywbeth newydd, neu fentro - hyd yn oed os nad oedd yn llwyddiant. Mae hyn yn dangos i ni y gallwch weithio y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfarwydd i chi ac mae'n dangos chwilfrydedd.

Sut i greu portffolio electronig

Y ffordd symlaf o ddarparu portffolio i ni yw anfon e-bost gyda ffeil PDF atom - byddwn yn dweud wrthych ble i anfon hwn pan fyddwn yn cysylltu â chi am eich cyfweliad.

Os yw eich ffeil yn arbennig o fawr ac na ellir ei hanfon drwy e-bost, efallai y bydd angen i chi anfon drwy wefan rhannu ffeiliau fel WeTransfer.

Lawrlwythwch ein canllaw i greu portffolio PDF syml gan ddefnyddio Microsoft PowerPoint.

Er mai PDF yw'r fformat a ffafrir gennym, gallwn hefyd dderbyn dolen i wefan portffolio os oes gennych un.

Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cyfweliad, byddwn yn ysgrifennu atoch naill ai gyda chynnig amodol neu gynnig diamod. Byddwn hefyd yn hysbysu UCAS fel y gallant ddiweddaru'ch proffil ar Track.

Os ydych chi'n derbyn cynnig diamod, rydyn ni'n disgwyl i chi barhau â'ch astudiaethau cyfredol a chwblhau'ch cymwysterau i gyflawni'r canlyniadau gorau y gallwch chi. Mae pob un o'ch cymwysterau yn bwysig i'ch rhagolygon gyrfa yn y dyfodol, a gallant fod yn hanfodol ar gyfer ymuno â rhai proffesiynau. Efallai y bydd eu hangen arnoch hefyd wrth wneud cais am astudiaeth bellach.