Skip to content

Cymdeithasau

Mae gennym ystod amrywiol o gymdeithasau ym Met Caerdydd, ac yma yn yr Ysgol Dechnolegau rydym yn falch o'r cymdeithasau y maes ein myfyrwyr wedi’u dechrau - sydd ddim yn ymwneud â thechnoleg yn unig! O'n Swifties i'n Dringwyr a Chwaraewyr Gemau Fideo, rydyn ni’n siŵr y gallwch chi dod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Ac os na welwch unrhyw beth sy'n mynd â'ch sylw, gallwch ddechrau eich cymdeithas eich hun gyda chefnogaeth lawn gan ein tîm Undeb y Myfyrwyr. Mae cymdeithasau’n ffordd wych o gysylltu â phobl o’r un anian, cael mwy allan o’r brifysgol, darganfod diddordeb neu sgil newydd, a mwynhau eich hun.

 

Archwilio rhagor o gymdeithasauArchwilio rhagor o gymdeithasau

Proffiliau Myfyrwyr

 

Harrison Heales stands in front of a student workspace

‘‘Ymunais â’r gymdeithas CTF yn ôl ym mis Medi 2023, ac ers hynny rwyf wedi bod yn dysgu mwy am hacio, offer a thechnegau moesegol. Ym mis Ionawr 2024, cymerais drosodd fel capten, gan barhau i ddarparu sesiynau sy'n hawdd i aelodau newydd fynd atynt a'u helpu i ddeall pwysigrwydd Seiberddiogelwch wrth i ni symud ymlaen i'r dyfodol. Ein nod yw creu gofod lle gall pawb ddysgu'n hawdd - o ddiogelwch Wi-Fi i sut mae gwendidau mewn gwefannau yn cael eu darganfod, ac i nodi'r diffygion a welir mewn technoleg, yn gorfforol ac yn rhithwir. Rydym hefyd yn cadw llygad am ddigwyddiadau i aelodau sy’n chwilio am her ac sydd am gymhwyso eu sgiliau i unrhyw fath o senario.’’

Harrison Heales
BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol
Cymdeithas Capture the Flag

“Fel cefnogwr brwd o Formula 1, mae ymuno â Formula Met wedi bod yn daith gyffrous. Mae dylunio ac adeiladu ceir rasio yn pontio’r bwlch rhwng peirianneg a gwaith tîm ac wedi fy ngalluogi i fod yn rhan o gymuned o unigolion o’r un anian. Mae’r gymdeithas yn cynnig cyfleoedd amrywiol lle rydym yn gweithio gyda’n gilydd i lwyddo mewn amryw o gystadlaethau tebyg i Formula 1, boed hynny’n gweithio ar adeiladu ceir, marchnata, neu gyllid tîm, mae cyfleoedd i bawb gyfrannu. Mae digwyddiadau fel rasys go-cart a gwylio F1 wedi helpu i adeiladu ein cymuned ac wedi cryfhau ein cysylltiadau. Mae bod yn rhan o gymdeithas Formula-Met nid yn unig wedi dyfnhau fy angerdd am Formula 1 ond hefyd wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau ac i lwyddo fel rhan o dîm.”

Jessica Greaves
BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol
Cymdeithas Formula Met

Jessica Graves Headshot

Bradley Bunce Headshot

“Dechreuais y gymdeithas dringo creigiau i geisio cael mwy o fyfyrwyr technoleg i ymgysylltu’n gorfforol gan ein bod fel arfer yn tueddu i dreulio llawer o amser yn eistedd o flaen cyfrifiadur! Mae’r gymdeithas wedi mynd o nerth i nerth, fe ddechreuom gyda dim ond 4 aelod i nawr lle mae gennym 78 o aelodau. Nid yw'r gymdeithas yn ymwneud â'r dringfeydd wythnosol am ddim yn unig, mae'n ymwneud â'r elfen gymdeithasol hefyd. Rydym yn cynnal digwyddiad cymdeithasol wythnosol ac yn trefnu gweithgareddau fel sglefrio iâ neu brydau allan. Mae’n ymwneud ag adeiladu’r ymdeimlad hwnnw o berthyn o fewn y gymuned ac mae dringo creigiau wedi gwneud hyn mor gryf, nid yn unig i’r gymdeithas, ond i’r Ysgol Dechnolegau hefyd.”

Bradley Bunce
BSc (Anrh) Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol
Sylfaenydd y Gymdeithas Dringo