Gofod pwrpasol i chi weithio neu ymlacio ynddo, sydd hefyd yn cynnwys gemau fideo, bythau VR a mwy.
Wedi’i integreiddio’n agos â Chanolfan Roboteg EUREKA, mae'r Labordy Roboteg yn cynnig mynediad at fwy na 120 o robotiaid arbenigol.
Mae ein Labordy Systemau Electronig yn cynnig profiad trochi gyda meddalwedd ac offerwaith.
Mae ein labordy seiberddiogelwch Cisco cyflawn yn cefnogi rhwydweithio safonol y diwydiant, profion hacio, profion diogelwch, a datblygu sgiliau IoT.
Mae ein Labordy Gemau’n cefnogi cipio symudiadau, Realiti Rhithwir/Realiti Estynedig, a phecynnau datblygu ffonau symudol a chonsol.
Datblygwch sgiliau ymarferol yn defnyddio peiriannau a chyfarpar manyleb uchel sydd â’r gallu i redeg delweddu data cymhleth a dysgu peirianyddol.
Diwrnodau Agored Israddedig
Eisiau darganfod mwy am astudio gyda ni?
Dewch i'n gweld yn un o'n Diwrnodau Agored.