Skip to content

Ymunwch â Phartneriaeth Caerdydd

Teacher talks with young pupil as they write with a pen Teacher talks with young pupil as they write with a pen
01 - 02

Beth yw Partneriaeth Caerdydd?

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Ysgolion, dwy o Brifysgolion Grŵp Russell, dau Gonsortiwm Rhanbarthol a Chyngor Dinas Caerdydd.

Bydd Partneriaeth Caerdydd yn cynnig model ymarfer clinigol ar sail ymchwil ar gyfer AGA ag egwyddorion allweddol Cynllun Interniaeth Rhydychen, sy’n uchel iawn ei barch, yn greiddiol iddo. Ar yr un pryd byddwn yn datblygu partneriaethau ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) gyda Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd a darparwyr eraill yng Nghymru, drwy Uscet (Cyngor Prifysgolion ac Ysgolion ar gyfer Addysg Athrawon yng Nghymru). Mae Partneriaeth Caerdydd yn ymrwymedig i gynllunio holl gynnwys, strwythur a strategaethau pedagogaidd AGA gydag Ysgolion/ Cynghreiriau Arweiniol y Bartneriaeth er mwyn datblygu athrawon ar gyfer y dyfodol yng Nghymru a fydd â’r sgiliau, y wybodaeth a’r uchelgais i arwain y newidiadau a amlinellwyd yn ‘Dyfodol llwyddiannus.

Sylwch nad yw Partneriaeth AGA Caerdydd ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau newydd i ymuno â’r Bartneriaeth ar hyn o bryd, ac eithrio Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg ac Ysgolion Cynradd Caerdydd – mae’r porth recriwtio dal i dderbyn ceisiadau o’r categori hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ccplacement@cardiffmet.ac.uk.

Mae Partneriaeth Caerdydd wedi’i hachredu gan Gyngor Gweithlu Addysg Cymru i gyflawni’r rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon canlynol:

Sy’n cynnig Celf a Dylunio; Bioleg gyda Gwyddoniaeth; Cemeg gyda Gwyddoniaeth; Dylunio a Thechnoleg; Drama;Saesneg; Daearyddiaeth; Hanes; TGCh a Chyfrifiadura; Mathemateg; Ieithoedd; Cerddoriaeth; Ffiseg gyda Gwyddoniaeth; Addysg Gorfforol; Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg; Cymraeg.

Mae ein gwerthoedd yn greiddiol i’n gweledigaeth: ‘Gweithio gydag athrawon, ar gyfer athrawon, yn athrawon, i ysbrydoli meddyliau Cymru yn y dyfodol.’

Fe wnawn:

  • Rhoi grym i athrawon yfory i gael gwireddu eu potensial
  • Creu diwylliant o gydweithredu ar draws pob elfen o’n gwaith
  • Bod yn ymrwymedig i greu athrawon hyderus, annibynnol sy’n ymroi i ddysgu gydol oes
  • Gwreiddio ymchwil i arloesi a llywio addysgu
  • Sicrhau bod lles ac addysg dysgwyr wrth graidd popeth a wnawn
  • Bod yn ymroddedig i gynwysoldeb a dwyieithrwydd