Yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn darparu llawer o gyfleoedd amrywiol ac unigryw i astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pam astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd?
- Bydd y Gymraeg yn cael lle amlwg iawn yn y cwricwlwm newydd sydd i ddechrau mewn ysgolion Cymraeg a hefyd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Gyda chymhwyster AGA o Brifysgol Met Caerdydd bydd yn bosibl ymgeisio am swyddi yn y ddau sector, felly cyfle gwych ar gyfer swyddi yn y dyfodol yn enwedig gyda thwf ysgolion cyfrwng Cymraeg.
- Mae’r gymuned AGA Cymreig ym Met Caerdydd yn agos ac rydym yn falch o’r gefnogaeth a roddwn i’n myfyrwyr. Mae ein grwpiau addysgu yn fach ac oherwydd hyn mae cefnoageth ar gael yn academaidd ac o ran lles myfyrwyr.
- Yn Met Caerdydd rydym yn croesawu myfyrwyr sydd â chefndir iaith amrywiol. Rhoddir 25 awr i bob myfyriwr gefnogi a mireinio eu sgiliau iaith er mwyn magu hyder.
- Yn ogystal, mae ein grŵp Pontio yn gynllun newydd sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n llai hyderus y neu Cymraeg ond sydd am gryfhau’r iaith a’i defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.