Skip to content

Strategaeth 2030

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad uchelgeisiol a blaengar, prifysgol fodern flaenllaw gyda phroffil nodedig ar gyfer addysgu, dysgu, ymchwil ac arloesi.

Mae ein myfyrwyr a’n staff yn gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid i arwain y ffordd wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Gymru a’r byd ehangach, gan gyfrannu at economi decach a gwyrddach sydd o fudd i bawb.

Yn dilyn penodiad Llywydd ac Is-Ganghellor newydd, yr Athro Rachael Langford, ym mis Ionawr 2024, mae’r Brifysgol wedi adnewyddu ei Strategaeth 2030. Mae’r weledigaeth a’r cenadaethau a nodir yn y Strategaeth newydd hon yn rhoi ffocws cryfach fyth ar wella profiad myfyrwyr, cynyddu cynhwysiant, cynyddu effaith ymchwil, meithrin arloesedd, a dyfnhau ymgysylltiad cymunedol.

Ein Huchelgeisiau Strategol

  • Ein huchelgais yw bod yn enwog fel prifysgol fodern flaenllaw sy’n nodedig ac yn flaengar.
  • Byddwn yn adeiladu ac yn cynnal enw da am brofiad a chanlyniadau rhagorol i fyfyrwyr, partneriaethau proffesiynol arloesol, a chyrhaeddiad ac effaith leol, genedlaethol a byd-eang sylweddol.
  • Bydd ein profiadau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn cael eu llywio gan ymchwil ac arloesi cymhwysol rhagorol, gan drawsnewid bywydau a chymunedau yng Nghymru a’r byd ehangach.
  • Bydd newid diwylliannol yn rhan sylweddol o’r rhaglen drawsnewid. Byddwn yn ymgorffori diwylliant o urddas a pharch yn y gwaith ac astudio, a byddwn mor dryloyw â phosibl wrth wneud penderfyniadau.

Ein Colofnau Strategol

Dysgu, Addysgu a Llwyddiant Myfyrwyr

Byddwn yn darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr, gan ehangu mynediad a chynhwysiant drwy ymestyn cyfleoedd dysgu y tu hwnt i’n cynigion israddedig ac ôl-raddedig traddodiadol drwy gyrsiau byr, prentisiaethau gradd a micro-gymwysterau, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy addysg drawswladol. Byddwn yn dylunio ein profiadau dysgu ac addysgu, gan gynnwys mannau dysgu, i ddatblygu ymdeimlad o berthyn sy’n cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial academaidd a gwneud y gorau o’u canlyniadau graddedigion.

Ymchwil ac Arloesi

Byddwn yn gwella ein proffil ymchwil ac arloesi drwy amgylchedd ymchwil cryfach a gwell ansawdd, dwyster, cyrhaeddiad ac effaith yn ein hallbwn ymchwil ac arloesi. Byddwn yn gweithio yng Nghymru a’r DU i gefnogi mentrau sydd o fudd i les cymdeithasol, economaidd, corfforol a meddyliol, gan gyfrannu at economi decach a gwyrddach sydd o fudd i bawb.

Rhyngwladol

Byddwn yn llunio ein partneriaethau addysgol trawswladol o ansawdd uchel, strategol ac oddi ar y campws i ymestyn ein heffaith, cyrhaeddiad ac enw da, ac i gefnogi datblygiad sgiliau a gallu dramor a chyfrannu at les unigolion, economïau a chymdeithasau yn fyd-eang. Byddwn yn rhagweithiol yn cefnogi ein myfyrwyr rhyngwladol ar y campws i gynyddu llwyddiant, gwella cadw, ymgysylltu a dilyniant, a hyrwyddo manteision ymgysylltu fel aelodau graddedig o rwydweithiau cyn-fyfyrwyr byd-eang gweithredol.

Cenhadaeth Ddinesig

Byddwn yn ymestyn ein gweithgarwch cenhadaeth ddinesig i gyfoethogi lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Trwy bartneriaethau a chydweithio, byddwn yn cefnogi cymunedau, busnesau a diwydiannau i ffynnu drwy ehangu mynediad i’n cyfleusterau, ein doniau a’n hadnoddau.

Cenadaethau Trawsbynciol

Mae Strategaeth 2030 hefyd yn amlinellu pedair cenhadaeth drawsbynciol, yn galluogi dull cydgysylltiedig o ymdrin â heriau aml-ddimensiwn a fydd yn sicrhau bod safbwyntiau a galluoedd amrywiol yn cael eu dwyn ynghyd i gyflawni ein huchelgeisiau strategol a rennir. Maent yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi ein hymrwymiad i brofiad a chanlyniadau rhagorol i fyfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn;
  • Rhoi ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chynaliadwyedd amgylcheddol ar flaen y gad wrth wneud penderfyniadau;
  • Diffinio a chyflwyno Prifysgol Chwaraeon Cymru, gyda phrofiad rhagorol i fyfyrwyr sy’n athletwyr a chyfraniadau amlwg i Gymru iach, weithgar;
  • Dod yn ‘sefydliad meddwl’ drwy ddefnyddio data, mewnwelediadau ymchwil ac arloesi i gefnogi llywodraethu a hunanfyfyrio hynod effeithiol ar gyfer gwelliant parhaus.