Ceisiadau am Fisa
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer eich lle, byddwch yn gallu gofyn am lythyr cymorth fisa trwy’r porth graddio myfyrwyr.
Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau gyda’r ffurflen ar-lein, anfonwch eich ymholiad i’r cyfeiriadau e-bost isod:
- Os buoch chi’n astudio yng Nghaerdydd, cysylltwch â Thîm Lles y Swyddfa Ryngwladol ar: globalletter@cardiffmet.ac.uk
- Os buoch chi’n astudio mewn Sefydliad Partner (y tu allan i Gaerdydd), cysylltwch â’r Swyddfa Ryngwladol a Phartneriaethau ar: partnerships@cardiffmet.ac.uk
Yn anffodus, ni chaniateir i ni gadarnhau enw eich ffrindiau neu aelodau o’ch teulu ar y llythyr. Os hoffech iddynt ymuno â chi yn y DU, defnyddiwch eich llythyr cefnogi (a gyhoeddwyd gan y brifysgol) ynghyd â’ch llythyr eich hun wedi’i gyfeirio at Lysgenhadaeth Prydain yn nodi’r canlynol i gefnogi eu cais am fisa:
- Eich enw a’ch rheswm dros ddod i’r DU
- Enwau’r bobl yr hoffech chi i ymuno â chi
- Dyddiad cyrraedd a hyd yr arhosiad yn fras
- Trefniadau llety sydd wedi’u gwneud
Sylwch nad yw eich llythyr cymorth fisa yn gwarantu y bydd eich cais am fisa yn llwyddiannus. Rhaid i bob ymgeisydd fodloni gofynion Rheolau Mewnfudo’r DU. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y weithdrefn a’r gofynion ymgeisio am fisa ar y wefan Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI).