Graddedigion Diweddar
‘Llongyfarchiadau i’n graddedigion diweddaraf o Met Caerdydd!’
Ni waeth ble mae bywyd yn mynd â chi ar ôl y brifysgol, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar eich taith a’ch helpu i ymgysylltu â chymuned Met Caerdydd.
Fel cyn-fyfyrwyr, byddwch chi’n elwa o fod yn rhan o gymuned Met Caerdydd am weddill eich oes.
Byddwn yn eich helpu i:
- cadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol
- cyrchu adnoddau a chyngor gyrfaoedd
- cyrchu buddion fel ein Gostyngiad Astudio Pellach a chefnogaeth gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd
Hynt Graddedigion
Mae’r Arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol a anfonir at yr holl raddedigion. Mae eich ymateb gwerthfawr yn ychwanegu at lais cyfunol graddedigion ledled y DU a bydd yn ysbrydoli ac yn hysbysu myfyrwyr y dyfodol.
Darganfyddwch fwy am Darganfyddwch fwy am Hynt Graddedigion.
Cofrestrwch ar gyfer Eich Cyfrif Cyn-fyfyrwyr
Mae cyfrif cyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gadw’ch manylion cyswllt a’ch dewisiadau cyfathrebu yn gyfredol.
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein Cylchlythyrau Cyn-fyfyrwyr chwarterol, sy’n rhoi gwybod i chi am y gefnogaeth yrfa ddiweddaraf, adnoddau graddedigion a newyddion Met Caerdydd!
Cofrestrwch ar gyfer cyfrif cyn-fyfyrwyr neu fewngofnodwch i ddiweddaru’ch cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn.
Cefnogaeth Gyrfaoedd i Raddedigion
Am hyd at 3 blynedd ar ôl i chi raddio, gallwch gyrchu cymorth gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. Gall ein Cynghorwyr Cyflogadwyedd a’n Ymgynghorwyr Gyrfaoedd roi cyngor ar ysgrifennu CV, awgrymiadau cyfweliad, neu helpu chi i chwilio am swydd.
Darganfyddwch fwy am gefnogaeth gyrfaoedd.
Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau
Angen copi o’ch tystysgrif neu drawsgrifiadau, neu am ddysgu am Wirio Dyfarniadau?
Ar gyfer pob ymholiad, ewch i’n tudalennau Cofrestrfa Academaidd.
Buddion a Gwasanaethau
Mae Met Caerdydd yn cynnig cynllun sy’n caniatáu gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu i raddedigion Met Caerdydd sy’n cofrestru ar raglenni ôl-raddedig.
Darganfyddwch fwy am yr holl fanteision rydych chi’n eu derbyn fel cyn-fyfyriwr Met Caerdydd.