Buddion
Manteisiwch ar y gwasanaethau a'r gostyngiadau sydd ar gael i'n cyn-fyfyrwyr.
Gostyngiad astudiaeth bellach
Mae Met Caerdydd yn cynnig cynllun sy'n caniatáu gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion Met Caerdydd sy'n cofrestru ar raglenni ôl-raddedig o fis Medi 2024.
Os ydych chi'n un i raddedigion y Brifysgol, neu'n fyfyriwr yn astudio ar lefel ôl-raddedig neu israddedig ar hyn o bryd, fe allech chi elwa o'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar gyfer eich astudiaeth ôl-raddedig ym Met Caerdydd.
Gwiriwch eich cymhwysedd a darllenwch sut i wneud cais neu e-bostiwch scholarship@cardiffmet.ac.uk i gael mwy o wybodaeth.
Cefnogaeth gyrfaoedd
Mae gan ein holl raddedigion hawl i ddefnyddio ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'ch swydd gyntaf, symud ymlaen yn eich gyrfa, neu newid gyrfa.
Gall ein tîm ymroddedig helpu gyda chynllunio eich gyrfa, cyngor gydag ysgrifennu CV a gwneud cais am swydd, chwilio am swydd ac ymarfer cyfweliad.
Dysgwch am ein Cefnogaeth gyrfaoedd, neu e-bostiwch careers@cardiffmet.ac.uk.
Y Ganolfan Entrepreneuriaeth
Gall cyn-fyfyrwyr gael mynediad at bob elfen o gymorth gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth am 2 flynedd ar ôl graddio, gan gynnwys gweithdai, cyngor a chyllid 1 i 1. I'r rhai a fyddai'n elwa o Raglen Fentora Catalyst, caiff y cymorth ei ymestyn i 5 mlynedd ar ôl graddio.
Mae ein digwyddiadau rhwydweithio yn aml yn agored i bawb, ac mae gennym gymuned gynyddol o entrepreneuriaid a gweithwyr llawrydd ar Instagram a LinkedIn.
Mae'r Ganolfan yn gwahodd Cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd yn ôl i siarad â myfyrwyr yn rheolaidd – naill ai i siarad am eu busnes a'u profiad fel sylfaenydd, neu i gyflwyno gweithdy neu i siarad am faes o angerdd neu arbenigedd.
Cysylltwch â ni os hoffech ein helpu i helpu ein myfyrwyr.
Llyfrgelloedd
Gall cyn-fyfyrwyr barhau i ddefnyddio gofodau'r Ganolfan Ddysgu, casgliadau corfforol a rhai e-adnoddau.
Aelodaeth Gymunedol
Gall cyn-fyfyrwyr wneud cais am ‘Aelodaeth Benthyciwr Cymunedol’. Mae'n rhad ac am ddim i ymuno a gallwch fenthyg hyd at 5 eitem ar y tro.
E-adnoddau
Gall cyn-fyfyrwyr hefyd chwilio drwy gatalog [metsearch.cardiffmet.ac.uk] Met Caerdydd a gallant barhau i gael mynediad at gasgliad helaeth o gyfnodolion academaidd ac e-lyfrau ar y campws trwy’r cynllun ‘Mynediad Cerdded i Mewn’.
I ddarganfod mwy, ewch i wefan Gwasanaethau Llyfrgell.
Aelodaeth Campfa MetHeini
Mae Aelodaeth Gymunedol MetHeini wedi dychwelyd!
Am gost o £80 am 3 mis, mae cyn-fyfyrwyr yn cael mynediad am ddim i Ganolfannau Ffitrwydd Cyncoed a Llandaf, yn ogystal â mynediad i bob dosbarth iechyd a ffitrwydd.
Ewch i wefan MetHeini er mwyn ymuno ar-lein a lawrlwytho ein ap.
Mannau a chyfleusterau cynadledda Met Caerdydd
Gall cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd hawlio gostyngiad o 20% oddi ar gyfleusterau wrth archebu cyfarfod neu gynhadledd yn y Brifysgol.
Mae ystod eang o gyfleusterau modern ar gael a bydd tîm cynadledda pwrpasol wrth law i helpu gyda'ch digwyddiad.
Dysgwch fwy am ein lleoliadau cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod neu e-bostiwch conferenceservices@cardiffmet.ac.uk.
Gostyngiadau Gwestai
Gall cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd gael gostyngiadau arbennig o lawer o brif westai Caerdydd.
Gwefan: The Angel Hotel
 lleoliad delfrydol yng nghanol Caerdydd, y gwesty Fictoraidd hwn yw’r lle perffaith i aros wrth ymweld.
Dyfynnwch Prifysgol Met Caerdydd wrth archebu i fanteisio ar y gyfradd ganol wythnos o £75.
*mae’r cyfraddau o ddydd Sul i ddydd Iau, Gwely a Brecwast deiliadaeth sengl (tâl atodol o £20 ar gyfer ystafell ddwbl/dau wely), yn amodol ar argaeledd ac mae’n eithrio digwyddiadau’r dref a chwaraeon. Neu defnyddiwch y cod ‘TEN’ ar ein gwefan i dderbyn 10% oddi ar ein cyfradd gorau sydd ar gael, 7 niwrnod yr wythnos- yn amodol ar argaeledd ar adeg archebu, telerau ac amodau’n berthnasol.
Gwefan: The Clayton Hotel, Cardiff
Wedi'i leoli yng nghanol y ddinas ar Heol Eglwys Fair, y gwesty 4 seren, Clayton Hotel Caerdydd yw un o'r gwestai mwyaf cyfleus yng Nghanol Dinas Caerdydd. Mae'r gwesty'n cynnwys 216 o ystafelloedd gwely, wi-fi am ddim, bwyty a bar gyda golygfeydd o'r ddinas.
Dyfynnwch Cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd i gael y gyfradd arbennig o £79 ar Wely a Brecwast - yn amodol ar le wrth archebu.
Gwefan: Park Plaza Hotel
Mae’r gwesty llwyddiannus, y Park Plaza Hotel, yng nghanol dinas Caerdydd, gydag 129 o ystafelloedd gwesteion moethus wedi eu haerdymheru a Wi-Fi am ddim drwyddi draw.
Nodwch y Brifysgol i archebu cyfradd arbennig ar gyfer Cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd yn y gwesty moethus hwn am ddim ond £99*.
I archebu ar gyfer grwpiau mwy o faint, penwythnosau a bargeinion sba, cysylltwch â Caroline, y Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata ar csims@parkplazahotels.co.uk
*Y cyfraddau yw dydd Sul i ddydd Iau, Gwely a Brecwast i un person, sy'n cynnwys wi-fi am ddim a defnydd o gyfleusterau Premier Spa gan gynnwys pwll 20m, baddon sba ac ystafell stêm ynghyd â champfa 80 gorsaf.
Gwefan: Voco St. David's Hotel and Spa
Gwesty a sba arobryn yw Voco St David's Caerdydd sydd â golygfeydd trawiadol ar draws Bae Caerdydd a Marina Penarth.
Adeilad nodedig sydd â chyfleusterau arbennig i bob gwestai.
Defnyddiwch y cod Rhif Adnabod Corfforaethol: 787062756 wrth archebu ar-lein i dderbyn gostyngiad o 10% oddi ar y cyfraddau hyblyg.
Partneriaethau Ymchwil a Busnes
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
Mae'r rhaglen Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ar waith ers dros 40 mlynedd ac mae'n un o brif raglenni'r DU sy'n helpu cwmnïau i gael gafael ar arbenigedd ac adnoddau sydd ar gael mewn prifysgolion.
Ariennir y rhaglen ledled y DU yn rhannol gan sawl sefydliad gan gynnwys y Llywodraeth a chynghorau ymchwil. Mae KTP yn bartneriaeth rhwng cwmni, prifysgol a pherson graddedig (Cydymaith) sy'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni prosiect strategol ar gyfer y busnes na fyddai'r cwmni'n gallu ei gyflawni heb y wybodaeth a'r arbenigedd a ddarperir gan y brifysgol.
Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd cyffrous hyn.
Prosiectau Cydweithredol
Mae prosiectau cydweithredol fel Prosiect Sgiliau'r Diwydiant Bwyd (PSDB) a'r Rhaglen Mewnwelediad Strategol (RhMS) yn darparu datrysiadau cadarn ar gyfer sectorau busnes penodol.
Os ydych chi'n teimlo y gallai'ch busnes elwa o weithio'n agosach gyda ni, cysylltwch â'r Gwasanaethau Ymchwil a Menter trwy e-bostio business@cardiffmet.ac.uk.