Amdanom Ni
Mae Met Caerdydd yn falch o'i holl gyn-fyfyrwyr ac rydym yn parhau i'ch cefnogi wrth i chi gychwyn ar fywyd ar ôl y brifysgol.
Rydym yn darparu arweiniad gyrfa gynnar i raddedigion diweddar ac yn anelu at eich cadw mewn cysylltiad trwy gydol eich gyrfa. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd i chi ysbrydoli ein myfyrwyr trwy siarad mewn digwyddiadau neu gynnig cyfleoedd profiad gwaith, a dim ond blaen y mynydd iâ yw hyn!
Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed ble mae bywyd wedi mynd â chi ers graddio ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bopeth sy'n digwydd ym Met Caerdydd.
Ein hanes
Mae ein hanes yn olrhain yn ôl i 1865 pan agorodd yr Ysgol Gelf gyntaf yn yr Hen Lyfrgell Rydd yng Nghaerdydd. Ers i ni ddatblygu i fod yn brifysgol, mae ein gwreiddiau wedi parhau i fod yng Nghymru, gan ddarparu addysg broffesiynol sy'n canolbwyntio ar ymarfer ar gyfer myfyrwyr o bob cwr o'r byd.
Mae'r sefydliad wedi newid ei enw nifer o weithiau dros y blynyddoedd, cyn cael yr enw sy’n adnabyddus i ni heddiw, sef Prifysgol Metropolitan Caerdydd:
- Athrofa Addysg Uwch Caerdydd (1988 - 1996)
- Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg (1976 - 1988)
- Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd (1971 - 1976)
- Coleg Addysg Caerdydd (1970 - 1976)
- Coleg Technoleg Llandaf (1970 - 1976)
- Coleg Masnach (1968 - 1971)
- Coleg Morwrol Reardon Smith (1956 - 1970)
- Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd (1957 - 1971)
- Coleg Technegol Llandaf (1954 - 1970)
- Coleg Celf Caerdydd (1949 - 1976)
- Coleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd (1945 - 1970)
- Ysgol Coginio Morwrol (1911 - 1973)
- Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd (1949 - 1961)
- Coleg Technegol Caerdydd (1916 - 1949)
- Ysgol Dechnegol Caerdydd (1889 - 1916)
- Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf Caerdydd (1865 - 1916)