Siarteri a Mentrau Cydraddoldeb
AU Ymlaen
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn Aelod Strategol o AU Ymlaen ac mae wedi ymrwymo i weithio gydag AU Ymlaen i helpu i lunio dyfodol Addysg Uwch, gan ddatblygu diwylliant sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Trwy ein haelodaeth, gobeithiwn ddysgu, dylanwadu a rhannu arfer gorau gyda Sefydliadau AU o bob rhan o Gymru a gweddill y DU.
Athena SWAN
Fel Prifysgol, rydym wedi ymrwymo i ddeall a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n bodoli i'n staff a'n myfyrwyr o ran anghydraddoldebau rhywiol. Rydym yn gweithio tuag at fynd i’r afael â’r heriau a’r gwahaniaethau sy’n rhwystro cynrychiolaeth, cynnydd a chanlyniadau cyfartal i bawb.
Mae Nod Siarter Athena SWAN AU Ymlaen wedi bod yn sbardun ar gyfer newid yn y Brifysgol ers inni ennill ein gwobr Efydd Sefydliadol gyntaf yn 2016, ac eto yn 2019. Ers hynny, rydym wedi parhau i gymryd agwedd ‘sefydliad cyfan’ sydd wedi arwain at ein holl Ysgolion Academaidd yn ymrwymo i wneud ceisiadau unigol ar gyfer y gwobrau Efydd ac Arian. Byddwn yn parhau i wreiddio a chynnal deg egwyddor allweddol Athena SWAN yn ein Prifysgol a chynnal strategaeth ymarferol a gwybodus i hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywiol i bawb.
Deiliaid presennol y gwobrau yw:
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd – Gwobr Sefydliadol Efydd
- Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd – Gwobr Efydd Adrannol
- Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd – Gwobr Efydd Adrannol
- Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Cyncoed) – Gwobr Arian Adrannol
Siarter Cydraddoldeb Hiliol
Mae Siarter Cydraddoldeb Hiliol AU Ymlaen yn darparu fframwaith lle mae sefydliadau'n gweithio i nodi a hunanystyried rhwystrau sefydliadol a diwylliannol sy'n atal staff a myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Fel Prifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym wedi ymrwymo’n ddiwyro i wreiddio cyfiawnder a chydraddoldeb hiliol ym mhob rhan o’n sefydliad. Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o Gydraddoldeb Hiliol a mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anghydraddoldeb yn ein Prifysgol, rydym wedi dod yn aelod o'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol.
Amser i Newid Cymru
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r holl staff a myfyrwyr sy'n cael problemau iechyd meddwl. Mae'r Brifysgol am sicrhau ei bod yn darparu amgylchedd gwaith croesawgar a chefnogol ac er mwyn dangos ein hymrwymiad ymhellach rydym yn cydweithio ag Amser i Newid Cymru. Drwy gefnogi'r ymgyrch genedlaethol hon, ynghyd â’r staff a’r myfyrwyr, ein nod yw helpu i fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu ym maes iechyd meddwl yng Nghymru, drwy wella'r cymorth a ddarperir gennym a rhoi blaenoriaeth i ddysgu o gwmpas iechyd meddwl a llesiant.
Hyderus o ran Anabledd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth a datblygiad gyrfa ar gyfer pobl anabl, ac fel cydnabyddiaeth o hyn mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei hardystio fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2.
Mae'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd wedi disodli'r cynllun Tic Dwbl neu symbol anabledd. O dan y cynllun Tic Dwbl, roedd cyflogwyr yn gwneud pum ymrwymiad, ac un ohonynt oedd i gyfweld pob ymgeisydd anabl a oedd yn bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag a'u hystyried yn ôl eu gallu.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun Hyderus o ran Anabledd ar gyfer cyflogwyr ewch i https://www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign
AccessAble
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ein campysau ac yn ymwybodol bod anghenion ein staff, ein myfyrwyr a'n hymwelwyr o ran hygyrchedd yn wahanol. Rydym yn deall nad yw'r hyn sy'n hygyrch i un person bob amser yn hygyrch i rywun arall. Er mwyn darparu cymorth, rydym wedi gweithio gydag AccessAble i ddarparu Canllawiau Mynediad Manwl er mwyn rhoi gwybodaeth i bobl am yr hygyrchedd pan fyddant yn ymweld â champysau’n Prifysgol. Mae'r Canllawiau Mynediad Manwl hefyd yn edrych ar y llwybrau y byddwch yn eu defnyddio a'r hyn sydd ar gael y tu mewn.
Mae Canllawiau Mynediad Manwl Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gael yma.