Skip to content

Gwybodaeth am y Bwlch Cyflog

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo a gweithredu arferion gorau ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth er mwyn darparu amgylchedd gweithio a dysgu cynhwysol i’r holl staff a myfyrwyr.

Er nad yw hyn yn ofyniad cyfreithiol eto, mae'r Brifysgol wedi penderfynu cyhoeddi ein bylchau cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd i ddangos ein hymrwymiad i dryloywder a chydraddoldeb mewn perthynas â chyflog.