Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Nod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw bod yn lleoliad lle mae holl aelodau ein cymuned yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu cynnwys.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb, gan roi cyfle i bob unigolyn gyflawni ei botensial, heb ragfarn a gwahaniaethu. Byddwn yn defnyddio ein cefndiroedd amrywiol i wella gwybodaeth broffesiynol a dod â her a safbwyntiau newydd i'r hyn a wnawn ar y campws. Bydd hyn yn ein helpu i feithrin gallu a chefnogi ein myfyrwyr a'n staff. Mae sefydliadau sy'n cofleidio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sicrhau canlyniadau gwell, staff mwy brwdfrydig, mwy o gydnabyddiaeth gan eu sefydliadau partner a mwy o arloesi.
Trwy ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant byddwn yn parhau i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg drwy gefnogi gweithwyr, myfyrwyr a chymunedau Cymraeg eu hiaith.
I gael rhagor o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, cysylltwch â equality@cardiffmet.ac.uk.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad sy'n cael ei gyrru gan werthoedd lle mae amgylchedd gweithio a dysgu diogel, cefnogol, a chynhwysol yn hanfodol i sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cyflawni eu llawn botensial.
Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu'r defnydd o Gytundebau Peidio â Datgelu (NDAs) mewn perthynas ag achosion staff neu fyfyrwyr yn ymwneud â thrais rhywiol neu ar sail rhywedd, bygythiadau o drais, aflonyddu, cam-drin, neu achosion o gam-drin ac aflonyddu y'u diffinnir yn ehangach.
Mae'r safbwynt polisi cadarn hwn yn adlewyrchu arfer da ledled y sector addysg uwch ac fe'i hadlewyrchir yn argymhellion Canllawiau Prifysgolion y DU (UUK) ar Gamymddwyn Rhywiol Staff/Myfyrwyr, sef canlyniad Grŵp Cynghori UUK a gadeirir gan yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r Grŵp hwn wedi bod yn datblygu Canllawiau ar gyfer mynd i'r afael â chamymddwyn rhywiol rhwng staff a myfyrwyr yn y sector addysg uwch a chaiff y Canllawiau eu lansio yn gynnar yn 2022.
Adlewyrchir y safbwynt hwn yng Nghod Ymddygiad Proffesiynol y Brifysgol y'i mabwysiadwyd yn 2021 ac mae'n cyd-fynd â Chanllawiau UUK ar Gamymddwyn Rhywiol ac â chanllawiau gan ACAS a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae hefyd yn cefnogi'r adduned i ddod â'r defnydd o gytundebau peidio â datgelu i ben, fe'i lansiwyd gan y Gweinidog dros Brifysgolion yn Lloegr yn Ionawr 2022, fe'i cefnogir gan y NUS, grwpiau ymgyrchu ac ASau ac mae eisoes wedi'i fabwysiadu gan rai prifysgolion yn Lloegr.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i raglen o waith ehangach UUK, Newid y Diwylliant, ac i egwyddorion gweithredol 'Can't Buy My Silence'. Mewn perthynas â chamymddwyn rhywiol yn benodol, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i:
- Ddiffinio ac ymgorffori diwylliant cynhwysol a chadarnhaol i sicrhau amgylchedd sy'n atal camymddwyn rhywiol ac nad yw'n ei alluogi na'i ganiatáu.
- Peidio ag annog perthnasoedd personol agos rhwng staff a myfyrwyr, datgelu'r rhain lle maen nhw'n bodoli a sicrhau y caiff staff eu tynnu oddi ar bob cyfrifoldeb a allai olygu gwrthdaro buddiannau ymddangosiadol neu wirioneddol.
- Adolygu polisïau'n rheolaidd fel y gall myfyrwyr a staff fod yn hyderus y bydd y Brifysgol yn gweithredu mewn ffordd sy'n deg a thryloyw.
- Datblygu a chynnal strategaeth atal gadarn ynghyd â dull teg, clir a hygyrch ar gyfer ymateb i honiadau, datgeliadau, adroddiadau a chwynion o drais rhywiol neu ar sail rhywedd, bygythiadau o drais o natur rywiol neu ar sail rhywedd, aflonyddu rhywiol neu ar sail rhywedd, cam-drin rhywiol neu ar sail rhywedd neu achosion o gam-drin ac aflonyddu y'u diffinnir yn ehangach.
- Monitro, gwerthuso ac adolygu arferion, a rhannu'r gwersi a ddysgwyd ledled y sector, er mwyn cefnogi cylch o welliant parhaus.
- Mabwysiadu dull systematig o gasglu data dienw ar adroddiadau o ddigwyddiadau o gamymddwyn rhywiol a gweithredu i ymateb i unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg.