Skip to content

Campws Preswyl Plas Gwyn

Mae Plas Gwyn yn gampws preswyl gyda llety en-suite. Gweler y mapiau ar gyfer Llandaf gan fod y rhain hefyd yn dangos lleoliad Plas Gwyn.

Cyfeiriad:

Heol Llantrisant
Llandaf
Caerdydd
CF5 2XJ

I gyrraedd Campws Preswyl Plas Gwyn o gyfeiriad:

Y Dwyrain:

  1. Cyerwch Gyffordd 29 oddi ar yr M4 a theithiwch tua'r gorllewin ar yr A48(M).
  2. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd ddeuol nes i chi gyrraedd set o oleuadau traffig (bydd Tesco Extra ar eich chwith), symudwch i'r lôn ganol.
  3. Ewch ymlaen trwy'r set nesaf o oleuadau traffig gan aros yn y lôn chwith, trowch i'r chwith gydag arwydd canol y ddinas, Llandaf a Llantrisant (Mill Lane), symudwch yn syth i'r lôn dde.
  4. Trowch i'r dde wrth y goleuadau traffig i'r A4119 a ewch ymlaen trwy'r goleuadau traffig tuag at bentref Llandaf.
  5. Ewch ymlaen i fyny'r rhiw trwy'r pentref tan i chi gyrraedd cylchdro bach.
  6. Cymerwch y tro cyntaf i'r chwith oddi ar y cylchdro a Phlas Gwyn sydd ar y chwith cyntaf gyferbyn â'r BBC. the BBC.​

Y Gorllewin:

  1. Cymerwch Gyffordd 32 oddi ar yr M4 ac ymunwch â'r A470 tuag at ganol y ddinas.
  2. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon tan i chi gyrraedd cylchdro Gabalfa. Wrth y cylchdro ewch i mewn i'r lôn dde a chymerwch y 4edd allanfa i'r A48(M) tua'r gorllewin.
  3. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd ddeuol nes i chi gyrraedd set o oleuadau traffig (bydd Tesco Extra ar eich chwith), symudwch i'r lôn ganol.
  4. Dilynwch gyfarwyddiadau 'Y Dwyrain' o bwynt 3.