Campws Llandaf
Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YB
Ffôn: 029 2041 6070
Mae Llandaf yn gartref i'r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Llandaf), Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Dechnolegau Caerdydd, ac Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd.
Mae hwn yn gampws prysur a bywiog. Gyda miliynau o bunnoedd o wedi'u buddsoddi'n ddiweddar, mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr. Mae'r campws yn cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol, undeb y myfyrwyr, siop ar y safle, bariau coffi, gan gynnwys Costa a Starbucks, a ffreutur. Mae'r campws tua dwy filltir o ganol y ddinas, wedi'i amgylchynu gan nifer o barciau, caeau chwarae a phentref hanesyddol Llandaf.
Mae'r campws hwn hefyd wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at ein campws preswyl, Plas Gwyn.
Cliciwch yma i weld map Campws Llandaf.
Parcio ceir
Mae'n ofynnol i bob ymwelydd â champysau Met Caerdydd Dalu ac Arddangos ar y gyfradd a bennwyd. Yn ogystal, rhaid i ymwelwyr â Champws Llandaf rhwng 08.00am a 4.00pm adrodd i'r Dderbynfa i gasglu cerdyn parcio dros dro i'w arddangos ochr yn ochr â'u tocyn Talu ac Arddangos. Mae Mannau Parcio i Ymwelwyr yn Llandaf yn gyfyngedig iawn ac nid oes sicrwydd y bydd lle parcio ar gael. Ar gyfer digwyddiadau mawr, trafodwch barcio gyda'r trefnwyr cyn eich ymweliad.
Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
Rydym yn falch o gadarnhau bod 12 x gwefrydd Cerbydau Trydan (22Kwh) bellach ar gael ar y campws hwn i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr (codir tâl).
Sut i'n cyrraedd ni
Bws
Gallwch gyrraedd Campws Llandaf gan ddefnyddio'r Gwasanaethau Bws Caerdydd canlynol:
- O Ganol Dinas Caerdydd: Bysiau 62, 63 a 66 o Heol y Porth (Westgate Street) yn teithio i Rodfa'r Gorllewin (3 munud ar droed)
- O Gampws Cyncoed: Bws M1* yn teithio i Gampws Llandaf Met Caerdydd
Ewch i wefan Bws Caerdydd ar gyfer amserlenni a manylion llawn llwybrau teithio.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig tocyn bws MetRider i fyfyrwyr a staff, sy'n rhoi mynediad diderfyn i rwydwaith cyfan Bws Caerdydd rhwng 1 Medi a 30 Mehefin.
* Gwasanaeth amser tymor yn unig.
Trên
Mae gorsaf reilffordd Waun-gron tua 20 munud ar droed o gampws Llandaf, ac mae ar Linell y Ddinas. Gweler National Rail Enquiries am amseroedd trenau.
Beic
Mae Caerdydd yn elwa o rwydwaith o lwybrau seiclo, gan gynnwys nifer o lwybrau seiclo di-draffig. Mae campws Llandaf wedi'i leoli nesaf at Lwybr Taf, llwybr seiclo cenedlaethol poblogaidd sy'n arwain o ganol y ddinas mor bell i'r gogledd â Merthyr Tudful.
Mae yna hefyd lwybr seiclo di-draffig sy'n cysylltu campws Llandaf â champws preswyl Plas Gwyn, gyda dim ond darn byr ar y ffordd rhwng Plas Gwyn a mynedfa'r llwybr seiclo ar Heol y Bont. Gan nad yw'r llwybr seiclo hwn wedi'i oleuo ar hyn o bryd, byddem yn eich cynghori i gymryd llwybr arall wrth deithio'n hwyr yn y nos.
I gynllunio'ch taith ar feic i gampws Llandaf, ewch i Cycle Streets.