Teithio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd
Hoffem estyn croeso cynnes i bob ymwelydd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Fel rhan o'n Cynllun Teithio Cynaliadwy, anogwn bob ymwelydd, myfyrwyr ac aelodau staff i deithio i'r Brifysgol trwy gerdded, seiclo, trafnidiaeth gyhoeddus, neu drwy rannu ceir.
I gael gwybodaeth ar sut i gyrraedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd naill ai drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car, gweler tudalennau gwe ein campysau unigol:
- Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd
- Ysgol Reoli Caerdydd
- Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Llandaf)
- Ysgol Technolegau Caerdydd
- Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
- Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Cyncoed)
Cynllun Teithio
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi teithio cynaliadwy er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, gwella iechyd a lles ein myfyrwyr a'n staff, a chwarae'n rhan fel aelod cyfrifol o'r gymuned leol.
Mae'n Cynllun Teithio yn darparu fframwaith cynhwysfawr i adolygu a gwella arferion teithio'r Brifysgol yn barhaus, ac mae'n elfen hanfodol o werthoedd corfforaethol y Brifysgol.
Cydnabuwyd ein dull llwyddiannus o gynllunio teithio â Gwobr Lefel Aur Cynllunio Teithio Cymru yn 2011.