Rhyddid Gwybodaeth
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG) 2000 yn darparu mynediad cyhoeddus at wybodaeth a gedwir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'n gwneud hyn mewn dwy ffordd:
- Mae'n ofynnol i'r Brifysgol gyhoeddi gwybodaeth benodol am ei gweithgareddau; ac
- Mae gan aelodau'r cyhoedd hawl i ofyn am wybodaeth gan y Brifysgol.
Mae'r Ddeddf yn ymdrin ag unrhyw wybodaeth wedi'i gofnodi a gedwir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n cynnwys dogfennau argraffedig, ffeiliau cyfrifiadurol, llythyrau, e-byst, ffotograffau, a recordiadau sain neu fideo.
Nid yw'r Ddeddf yn rhoi mynediad i bobl at eu data personol eu hunain. Os ydych chi eisiau gweld y wybodaeth sydd gan y Brifysgol amdanoch chi, rhaid ichi wneud Cais am Fynediad diogelu data.
Mae Polisi Rhyddid Gwybodaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ddatganiad o ymrwymiad y Brifysgol i'r DRhG.
Yn ogystal ag ymateb i geisiadau am wybodaeth, rhaid i'r Brifysgol gyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol. Felly mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Brifysgol gael Cynllun Cyhoeddi.
Mae Cynllun Cyhoeddi'n ymrwymo'r Brifysgol i roi gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'i gweithgareddau busnes arferol. Ymysg y dosbarthiadau o wybodaeth y mae:
- Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud;
- Beth rydyn ni'n ei wario a sut rydyn ni'n ei wario;
- Beth yw ein blaenoriaethau a ble rydyn ni arni;
- Sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau;
- Ein polisïau a'n gweithdrefnau;
- Rhestrau a chofrestrau; a'r
- Gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.
Gall unrhyw un wneud cais Rhyddid Gwybodaeth, gan gynnwys sefydliadau fel papurau newydd.
I wneud cais am wybodaeth o dan y DRhG, bydd angen ichi:
Gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig i freedomofinfo@cardiffmet.ac.uk;
- Gynnwys eich enw;
- Gynnwys eich gwybodaeth gyswllt; a
- Disgrifio'r wybodaeth rydych chi ei heisiau a sut yr hoffech ei derbyn.
Nid oes angen ichi egluro pam rydych chi eisiau'r wybodaeth a ofynnoch amdani, er fe allai hynny helpu i nodi a chyflenwi'r union atebion i'ch cwestiynau mewn rhai amgylchiadau. Mae darparu rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost hefyd yn ddefnyddiol ond nid yw'n orfodol.
Bydd peth o'r wybodaeth sydd gan y Brifysgol wedi'i chael gan drydydd parti neu bydd yn cynnwys cyfeiriad at drydydd parti. Wrth ystyried unrhyw geisiadau am y math hwn o wybodaeth, ymgynghorir â'r trydydd parti cyn cyflenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani. Os hoffech gael eich hysbysu cyn i'r ymgynghori hwn ddechrau, rhowch wybod inni pan fyddwch chi'n gwneud eich cais.
Os ydych chi'n credu bod Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi methu â chydymffurfio â'r Ddeddf, ei Chynllun Cyhoeddi, neu os ydych chi'n credu nad ymdriniwyd yn briodol â chais a wnaethoch neu eich bod chi'n anhapus â chanlyniad yr ystyriaeth a roddwyd i gais, gallwch ofyn am Adolygiad Mewnol yn y lle cyntaf.
Gweithdrefn i ddelio ag unrhyw anghydfodau neu gwynion sy'n deillio o ganlyniad neu'r ymdriniaeth â chais am wybodaeth yw Adolygiad Mewnol. Mae Adolygiadau Mewnol yn dangos ymrwymiad y Brifysgol i fod yn agored ac yn dryloyw.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn cynnal Adolygiad Mewnol, gweler: Sut i ofyn am wybodaeth gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd
Os hoffech ofyn am Adolygiad Mewnol, gwnewch gais yn ysgrifenedig i freedomofinfo@cardiffmet.ac.uk.
Gorfodir y DRhG gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sydd â'r pŵer i ymchwilio i gwynion a, lle bo angen, gorchymyn datgelu gwybodaeth sy'n destun dadl. Gall yr ICO hefyd wneud canfyddiadau ynghylch y graddau y mae'r Brifysgol wedi cydymffurfio â dyletswyddau gweithdrefnol y DRhG a chyda'r ddyletswydd statudol i gynghori a chynorthwyo.
Gwybodaeth gyswllt yr ICO yw:
Gwefan
Swyddfa Cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill,
Caerdydd,
CF10 2HH
Swyddfa Lloegr
Information Commissioner's Office,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire SK9 5AF