System Reoli Amgylcheddol (EMS)
Cyflawnodd Met Caerdydd ISO 14001 (achrediad gydag ISO 14001 yn 2012; gydag ISO 14001 yn 2015; ail-achrediad yn Chwefror 2024). Parhau i gynnal hyn trwy osod amcanion a thargedau clir, gyda pherchnogion Agweddau yn adrodd ar gynnydd yn dymhorol. Mae'r gwelliant parhaus yn cael ei gynnal trwy adolygiad gyda chyfarfodydd tymhorol gyda Pherchnogion Agweddau, Undeb y Myfyrwyr, cynrychiolwyr Undebau Llafur a thimau archwilio mewnol ac allanol o staff a myfyrwyr gwirfoddol a hyfforddwyd.
Mae Timau Archwilio yn adolygu Effeithiau Amgylcheddol ac Agweddau diffiniedig trwy gynllun archwilio blynyddol cynhwysfawr. Mae paratoi Adroddiad blynyddol ar Gynaliadwyedd a'r Amgylchedd yn cadarnhau cynnydd a chyfeiriad i'r dyfodol.
Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu ein heffeithiau amgylcheddol cadarnhaol a lleihau ein heffeithiau negyddol.
Mae'r System Reoli Amgylcheddol (EMS) yn cynnwys holl weithgareddau'r Brifysgol, o ynni a chyfleustodau, i reoli gwastraff ac ailgylchu, ond yn fwy arwyddocaol mae'n cynnwys ymwreiddio addysg ar ddatblygu cynaliadwy yn y cwricwlwm ac mewn gweithgareddau ymchwil a menter. Mae nodi a chadw i’r funud â deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol, cadw cofrestr wedi’i dogfennu o ddeddfwriaeth a chysylltu deddfwriaeth amgylcheddol ag agweddau amgylcheddol arwyddocaol yn rhan o'r EMS.
Caiff y cynnydd ar yr amcanion a’r targedau eu hadrodd gan y Grŵp Cynaliadwyedd. Mae'r Dirprwy Is-ganghellor (Cyncoed) a Deon yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd fel Cadeirydd yn cynrychioli Bwrdd yr Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb dynodedig am sicrhau bod gofynion safon ISO14001: 2015 yn cael eu gweithredu a'u cynnal.
Mae aelodau'r Grwp Cynaliadwyedd wedi'u cynnwys yn y Cylch Gorchwyl. Mae'r Brifysgol yn gweithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr i gynnal yr EMS. Fel Perchennog Agwedd, mae Undeb y Myfyrwyr yn cymryd diddordeb arbennig yn statws Masnach Deg y Brifysgol a dyma'r cyswllt hanfodol â holl weithgareddau myfyrwyr.
Mae'r Brifysgol wedi nodi agweddau amgylcheddol sy'n cael eu rheoli gan Berchnogion Agweddau enwebedig sydd mewn swyddi cyfwerth ag amser llawn, fel a ganlyn:
Agweddau Amgylcheddol:
Mae'r Brifysgol wedi nodi agweddau amgylcheddol ar gyfer defnydd trydan a nwy, llygredd golau a defnydd dŵr.
Nod ein Strategaeth Rheoli Carbon 2024-2030 gyfredol yw adeiladu ar y perfformiad ynni cadarn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn gydag ystod o fesurau sydd â'r nod o gyflymu ein gweithgareddau datgarboneiddio lle bynnag y bo hynny'n bosibl wrth inni weithio tuag at darged carbon sero net.
Perchennog Agwedd - Rheolwr Ynni a'r Amgylchedd
Met Caerdydd yw un o'r sefydliadau teithio cynaliadwy mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae ganddo hanes o ganolbwyntio ar deithio cynaliadwy i'w myfyrwyr, staff ac ymwelwyr er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd, yn cyfrannu at iechyd a llesiant cadarnhaol staff a myfyrwyr ac yn aelod cyfrifol o'r gymuned leol.
Nod craidd y Cynllun Teithio er 2007 fu lleihau'r siwrneiau ceir un person i'r Campws a'r ddibyniaeth ar gerbydau i gefnogi ei weithgaredd.
Mentrau cyfredol - Adolygiad o geir cronfa - ystyried cerbydau hybrid / trydan; Cyflwyno system archebu a thalu ar-lein ar gyfer Met-Rider; Hyrwyddo Nextbike ar bob Campws; darparu mwy o feiciau a chynnal Arolwg Teithio staff a myfyrwyr bob dwy flynedd.
Mae grŵp newydd, Grŵp Cynllunio Trafnidiaeth Gynaliadwy, ynghyd â chynrychiolwyr o Ysgolion, Unedau a Myfyrwyr, yn ystyried Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer y Brifysgol, gan gynnwys adolygu cyfleusterau a chyfyngiadau Parcio Ceir a'r Cynllun Teithio.
Perchennog Agwedd - Neil Woollacott - Dirprwy Reolwr Gwasanaethau Llety / Rheolwr Cynllun Teithio nwoollacott@Cardiffmet.ac.uk
Mae'r Brifysgol wedi nodi Agweddau Amgylcheddol; Allyriadau i'r Atmosffer; Elifion Nwyol; Elifion a Charthion a Legionella.
Mae'r Brifysgol yn parhau i fod yn esempt o Ganiatâd Allyriadau i’r Atmosffer, oherwydd ei heffaith ansylweddol.
Mentrau cyfredol - gweithredu arolygon draeniau a chymryd camau unioni.
Perchennog Agwedd - Glenn Roberts - Rheolwr Gweithrediadau Cynnal a Chadw a Gofod
Mae'r Brifysgol yn adolygu ac yn monitro'r defnydd o bapur a phrint, gan ddarparu gwasanaeth argraffu canolog a darparu dyfeisiau aml-ddefnydd o amgylch y Campws at ddefnydd staff a myfyrwyr.
Mae defnyddio dyfeisiau aml-ddefnydd a meddalwedd rheoli argraffu yn darparu buddion gan gynnwys arbedion ynni (dros argraffwyr bwrdd gwaith neu sganwyr) a llai o wastraff (trwy nwyddau traul a reolir yn ganolog a dewisiadau rheoli gan gynnwys dileu tasgau diangen yn yr argraffydd, dileu tasgau heb eu prosesu yn rheolaidd bob 24 awr a phrint dwyochrog fel rhagosodiad).
Mentrau cyfredol
Argraffwyd yr holl dudalennau trwy ddyfeisiadau aml-ddefnydd y Brifysgol wedi'u gwrthbwyso gan Kyocera gan ddefnyddio cynllun 'PrintReleaf'. Mae'r holl bapur a archebir yn safonol FSC ac yn gwrthbwyso carbon. Mae'r holl nwyddau traul a rhannau wedi'u hailgylchu'n llawn.
Perchennog Agwedd - Rebecca Bloyce - Rheolwr Gwasanaethau Masnachol
Mae'r Brifysgol wedi penderfynu bod newid yn yr hinsawdd yn fater perthnasol i'w cyd-destun a'i SRh a'i nod yw gwella ymwybyddiaeth sefydliadol ac ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd yn adran yr Amgylchedd ac Ystadau.
Darllenwch ragor
Perchennog Agwedd - Paul Robinson - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Ystadau
Mae gan y Brifysgol Bolisi a Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, sy'n diffinio ein meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu bioamrywiaeth ac yn gosod targedau ar gyfer gwella bioamrywiaeth a sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei chynnwys mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â rheoli ystadau.
Mae'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (LTDU) yn parhau i fonitro a gwella ansawdd addysgu pynciau â gogwydd amgylcheddol a chynaliadwyedd trwy brosesau sicrhau ansawdd adolygiadau blynyddol y Brifysgol.
Mentrau cyfredol - mae LTDU wedi cwblhau’r gwaith o ddatblygu offeryn archwilio rhaglenni, ac adnoddau cysylltiedig i'w defnyddio gan Gyfarwyddwyr Rhaglenni i werthuso a datblygu'r graddau y mae rhaglenni'n cwrdd â nod strategol allweddol cynaliadwyedd.
Mae gofyniad parhaus ar bob rhaglen israddedig i weithredu'r archwiliad o gynaliadwyedd rhaglen a dangos bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd i gwrdd â Phriodoleddau Graddedigion Met Caerdydd. Mae Priodoleddau Graddedigion yn set o gymwyseddau y dylai pob myfyriwr y brifysgol eu datblygu trwy gydol eu hamser yma, ym mhob agwedd ar fywyd prifysgol. Mae'r priodoleddau hyn yn amlinellu'r meysydd a amlygir amlaf gan gyflogwyr wrth logi cyflogeion newydd, felly mae'r priodoleddau graddedig hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i wella cyflogadwyedd myfyrwyr.
Mae gweithredu’r Strategaeth Prifysgol Iach wedi gweld ymyrraeth gwricwlaidd bellach gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd lle cafodd myfyrwyr Lefel 6 y dasg o godi ymwybyddiaeth o'r Strategaeth "Prifysgol Iach" trwy gyfleu negeseuon allweddol y strategaeth i fyfyrwyr, staff a'r gymuned gyfagos. Yr allwedd i lwyddiant fydd deall gwybodaeth, ymddygiadau, arferion a chanfyddiadau presennol o amrywiaeth o safbwyntiau.
Perchennog Agwedd - Helen Bhanaut - Datblygwr Dysgu hbhanaut@cardiffmet.ac.uk
Mae'n ofynnol i Ysgolion / Unedau reoli pob agwedd ar iechyd a diogelwch yn eu meysydd priodol, gan gynnwys ar y safle ac yn eu storfeydd eu hunain, gan gynnwys rheoli sylweddau peryglus a rhestrau o'r holl gemegau.
Mae sylweddau peryglus yn cael eu storio mewn storfeydd diogel a chaiff aelodau staff perthnasol eu hyfforddi i drin, defnyddio a gwaredu'r rhain yn ddiogel.
Perchennog Agwedd - Chris Deacy - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adnoddau Dynol (Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant)
ae'r Brifysgol yn cydnabod ymwybyddiaeth amgylcheddol fel agwedd allweddol yn ei System Reoli Amgylcheddol, yn enwedig o ran nifer fawr a mudo blynyddol myfyrwyr, staff, ymwelwyr a chontractwyr ar y safle, sy’n cyflwyno cymysgedd heriol o gefndiroedd, diwylliannau a diddordebau. Mae'r ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd yn cefnogi pob agwedd ar y System Reoli Amgylcheddol.
Defnyddir gwahanol ddulliau er mwyn ymgysylltu â phawb ar y dechrau ond hefyd i gysylltu â'r bobl iawn ar yr amser iawn, er enghraifft Wythnos Ewch yn Wyrdd a'r modiwl cynaliadwyedd e-ddysgu ar gyfer sesiynau ymsefydlu staff. Mae sesiynau ymsefydlu gorfodol Neuaddau myfyrwyr yn cyfathrebu'r ailgylchu a'r gwastraff ar y Campws.
Mae'r defnydd o sgriniau teledu, posteri, e-byst ac arwyddion yn parhau i gadarnhau'r neges. Mynychu sesiynau ymwybyddiaeth e.e. Ffair y Glas, Wythnos Ewch yn Wyrdd a chydweithrediad Perchnogion Agweddau a grwpiau eraill e.e. Llety Caerdydd, o ran rheoli gwastraff, llygredd sŵn ac ati. Pythefnos Masnach Deg, ac ati. Ymgysylltu â myfyrwyr a myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli a syniadau a mentrau newydd. Grwpiau ymgynghori ar gyfer cynllunio digwyddiadau e.e. Wythnos Ewch yn Wyrdd.
Darparu darlithwyr gwadd a seminarau ar EMS @cardiff met.
Prifysgol Iach - Mae Diwrnodau Cymunedol hefyd yn hyrwyddo ac yn ymgysylltu â'r holl ymwelwyr, staff a myfyrwyr, ac mae ymwybyddiaeth o fewn y Brifysgol ac yn allanol gyda Grwpiau Cymunedol lleol a sefydliadau allanol.
Perchennog Agwedd - Rachel Roberts - Rheolwr Ymgysylltiad Cynaliadwyedd - rroberts@cardiffmet.ac.uk
Christine Patten - Swyddog Prosiectau Cynaliadwyedd -
Swyddog Amgylcheddol Undeb y Myfyrwyr, Rhan Amser - suenvironmental@cardiffmet.ac.uk
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli llais myfyrwyr ac ymgysylltiad â'r EMS gyda Swyddog a Chymdeithas Amgylcheddol myfyrwyr rhan amser. Mae Undeb y Myfyrwyr, ynghyd â'r Brifysgol a Llety Caerdydd yn trefnu ac yn hyrwyddo gweithgareddau Myfyrwyr sy'n cael effaith amgylcheddol gadarnhaol ar y gymuned, yn lleol ac yn rhanbarthol / cenedlaethol. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cydlynu'r achrediad Masnach Deg gyda'r Brifysgol.
Mentrau cyfredol - Cyflwynwyd gwobr Myfyrwyr Met Caerdydd gyda llwybr Meddylfryd Cynaliadwy. Mae amryw o opsiynau gwirfoddoli ar gael, un o'r rhain yw'r cyfle i gael eich hyfforddi fel archwilydd EMS a threfnu, cynllunio a chymryd rhan mewn archwiliadau tîm o'r EMS. Ystyried cyfleoedd ailddosbarthu Bwyd gydag Undeb y Myfyrwyr a Llety Caerdydd o fannau gwerthu bwyd y Brifysgol a’r Undeb i elusennau lleol.
Perchennog Agwedd - Fay Brinsdon - Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr - fbrinsdon@cardiffmet.ac.uk
Swyddog Amgylcheddol Undeb y Myfyrwyr, Rhan Amser - suenvironmental@cardiffmet.ac.uk
Mae swyddogaeth gaffael y Brifysgol yn cyfrannu'n allweddol at gyflawni amcanion cynaliadwyedd trwy ei rôl wrth reoli pob agwedd ar dendro a phenodi cyflenwyr dewisol.
Er mai prif nod holl waith caffael y Brifysgol yw sicrhau'r gwerth gorau am ei hanghenion nwyddau a gwasanaethau, mae'r Brifysgol yn ceisio ffurfweddu pob caffaeliad i gynnwys pob math o amcanion polisi corfforaethol, y mae cynaliadwyedd yn ystyriaeth fawr ohonynt, a gwneud hynny mewn modd sy'n gyson â datganiad 'Polisi Caffael Cymru' Llywodraeth Cymru.
Wrth ddatblygu’r manylion ar gyfer ei gofynion caffael, mae’r Brifysgol yn ymdrechu i gynnwys buddion cynaliadwy, sydd wedi amrywio dros y deuddeng mis diwethaf o barhau i gynyddu'r defnydd o gynhyrchion swyddfa a weithgynhyrchir o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu; caffael mwy o fwydydd o ffynonellau lleol; i gyflawni nifer o 'fuddion cymunedol' yn deillio o ymarferion tendro.
Lle bynnag y bo hynny'n ymarferol, mae'r Brifysgol yn rhannu ei thendrau yn 'lotiau' rhanbarthol neu ofynnol i gynorthwyo i sicrhau bod busnesau llai a lleol yn gallu cymryd rhan mewn ymarferion caffael y Brifysgol ac i helpu i leihau'r ôl troed carbon yn ei chadwyni cyflenwi uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Gellir dangos budd yr amrywiol fentrau 'cyflenwi lleol' hyn i'r economi leol trwy'r ffaith bod tua 58% o wariant dylanwadol y Brifysgol dros y deuddeg mis diwethaf wedi'i osod gyda chyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sy'n adlewyrchu cynnydd o ryw 5% dros y 4 blynedd diwethaf.
Mentrau cyfredol - Bydd y Brifysgol yn ehangu effaith gadarnhaol masnachu busnes di-bapur trwy gynyddu nifer y cyflenwyr sy'n masnachu trwy e-farchnad y brifysgol; ceisio gwneud defnydd o'r newidiadau i'r Rheoliadau Cytundebau Cyhoeddus ("rheolau caffael yr UE") er mwyn galluogi busnesau bach ymhellach i gymryd rhan mewn ymarferion tendro; ac mae'n bwriadu cwblhau datblygiad dull gwell o reoli nwyddau a ddylai ganiatáu i'r Brifysgol ddylanwadu ymhellach ar welliannau amgylcheddol trwy ei chadwyni cyflenwi.
Perchennog Agwedd - Peter Standfast - Pennaeth Caffael abrooksbank@cardiffmet.ac.uk
Yn unol â Chynllun Strategol y Brifysgol, mae gweithgareddau mewn Ymchwil a Menter yn mynd i'r afael â themâu trawsbynciol Rhyngwladoli, Partneriaeth, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynaliadwyedd. Mae Ysgolion yn cyfrannu mewn gwahanol ffyrdd a gyda'i gilydd yn mynd i'r afael â'r tri tharged penodol:
1) 50% o'r gweithgaredd ymchwil a ddychwelir i'r Fframwaith Rhagoriaeth mewn Ymchwil i fod yn flaenllaw yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol
2) Cynyddu incwm ymchwil cyfartalog staff academaidd i £10 mil y pen erbyn diwedd y cyfnod cynllunio
3) Bod wedi cefnogi’r gwaith o greu 20 o fentrau busnes newydd llwyddiannus erbyn diwedd y cyfnod cynllunio.
Mae Strategaeth Ymchwil 2014-19 hefyd yn nodi'n glir ei huchelgeisiau i wella amgylchedd(au) ymchwil y Brifysgol trwy, ymysg pethau eraill, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhyw ac eraill trwy gael gwared ar rwystrau personol a strwythurol i ddilyniant gyrfa academaidd cynaliadwy; Gweithredu dulliau strwythuredig a chyson sy'n annog staff i rannu cyfrifoldeb ac i ymgysylltu'n rhagweithiol â'u datblygiad personol a gyrfaol; Mabwysiadu arfer gorau mewn perthynas â rheoli talent, cadw staff a recriwtio wedi'i dargedu; Gwella ansawdd a chynaliadwyedd goruchwyliaeth myfyrwyr ymchwil a chefnogi'r amgylchedd ar gyfer myfyrwyr ymchwil.
Perchennog Agwedd - Cyfarwyddwr Ymchwil ac Astudiaethau Graddedig
Enillodd y Brifysgol Wobr Aur am Sgôr Gynaliadwyedd SRA am yr ail flwyddyn yn olynol ym mis Awst 2018, yn seiliedig ar gaffael canolog ac un pwynt cyswllt ar gyfer cefnogaeth gynaliadwyedd barhaus ar gyfer holl fannau gwerthu bwyd y Brifysgol ar y Campws.
ae'r Gwasanaethau Arlwyo a Lletygarwch yn cydnabod eu cyfrifoldeb i gyflawni eu gweithgareddau caffael mewn modd sy'n gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol, tra hefyd yn annog cynhyrchu a bwyta bwyd iach cynaliadwy.
Mae'r Brifysgol yn annog cyflenwyr i leihau'r effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol sy'n gysylltiedig â'u cadwyn gynhyrchu a chyflenwi gymaint â phosibl, a sicrhau, drwy anogaeth weithredol, na wahaniaethir yn erbyn cyflenwyr lleol a llai yn y broses gaffael a chyfleoedd tendro.
Mentrau cyfredol - Gweithredu Marchnadoedd Ffermwyr misol yn ystod y tymor, gan gefnogi cyflenwyr lleol gyda chyfleoedd i'r cyflenwyr lleol gyflenwi'r Brifysgol. Ystyried cyfleoedd ailddosbarthu Bwyd gydag Undeb y Myfyrwyr a Llety Caerdydd i elusennau lleol o fannau gwerthu bwyd y Brifysgol a’r Undeb. Adolygu a lleihau plastig untro ar y Campws. Ionawr 2019, cynllun peilot gyda Cadwch Gymru'n Daclus / Simply Cups ar gyfer creu llif gwastraff newydd ar y Campws - casglu cwpanau coffi untro. Parhau i hyrwyddo'r defnydd o gwpanau y gellir eu hailddefnyddio ar y Campws.
Perchennog Agwedd - Andrew Phelps - Rheolwr Gwasanaethau Arlwyo a Lletygarwch aphelps@cardiffmet.ac.uk
Mae cydgysylltu'r System Reoli Amgylcheddol hefyd yn creu targedau ac amcanion.
Perchennog Agwedd - Rachel Roberts - Rheolwr Perfformiad Amgylcheddol rroberts@cardiffmet.ac.uk