Rheoli Gwastraff
Mae'r Brifysgol yn parhau i hyrwyddo'r neges o leihau gwastraff; ailddefnyddio ac ailgylchu trwy gymryd rhan yn nigwyddiad blynyddol Ffair y Glas a'r Wythnos Werdd. Mae negeseuon allweddol i gefnogi hyn yn cael eu cyflwyno ar y cyd gan Staff yr Amgylchedd ac Ystadau ochr yn ochr â'n prif bartner Rheoli Gwastraff Biffa. Defnyddir cyfarfodydd a fforymau Gweithrediadau Campws Mewnol i sicrhau bod holl ddefnyddwyr y Brifysgol yn ymwybodol o'r Polisi Cynaliadwy ac yn gwbl ymwybodol o'n targedau ailgylchu a'n cyfleusterau er mwyn eu cyflawni.
Adroddir ar gynnydd amcanion y strategaeth Rheoli Gwastraff i gyfarfodydd y Grŵp Perfformiad Amgylcheddol bob tymor ac yn yr Adroddiad Blynyddol.
Enghraifft o Wastraff Gwahanedig a Ddefnyddir ar ystâd y Campws: