Papur
Mae'r holl bapur yn cael ei archebu a'i gadw'n ganolog, gan y gwasanaeth argraffu. Rhaid i unrhyw gynnyrch papur neu gerdyn a ddefnyddir ar ein campysau fodloni safon FSC a dod o ffynonellau cynaliadwy. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o gyflenwyr ar gyfer papur sy'n rhedeg mentrau gwahanol i helpu i wrthbwyso unrhyw garbon a ddefnyddir wrth gynhyrchu neu ddosbarthu papur ac rydym yn cofrestru'n wirfoddol i'r cynlluniau hyn pan fyddant ar gael. Er enghraifft, mae Premier Paper yn cynnig cynllun ‘Dal Carbon’ mewn partneriaeth â Coed Cadw..