Hyfforddiant a Chyrsiau Cynaliadwyedd
Fel rhan o'i hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a denu staff i wneud gwahaniaeth, mae'r Brifysgol wedi rhoi e-fodiwl ar-lein ar waith sy'n orfodol ar gyfer dechreuwyr newydd a gellir cael mynediad ato hefyd fel rhan o'r broses datblygu staff. Mae staff hefyd yn cael cyfle gyda myfyrwyr i gael eu hyfforddi fel Archwilwyr Amgylcheddol EMS y Brifysgol. Darllenwch yr astudiaeth achos (PDF).
Cyrsiau Datblygu Staff
- Cynaliadwyedd: datblygu eich arfer trwy'r offeryn hunanarfarnu (Dogfan Word)
- Datblygu Cynaliadwyedd ar lefel leol
Gweithdai Staff a Myfyrwyr
Archebwch le ar y Gweithdai Gwyrdd am ddim i staff a myfyrwyr - gweler y dudalen Newyddion a Digwyddiadau am sut i archebu.
Mewn partneriaeth â Dinas Werdd, rydym wedi cynnig syniadau newydd eleni i staff a myfyrwyr ddysgu ac ystyried gwneud rhywbeth gwahanol, e.e. Cartref Diwastraff, Gardd Ddiwastraff a Chegin Ddiwastraff.
Sesiwn Ymsefydlu Myfyrwyr
Mae myfyrwyr mewn Neuaddau Preswyl hefyd yn cwblhau Sesiwn Ymsefydlu ar-lein sy’n ymwneud â gwahanu gwastraff, sŵn ac opsiynau teithio cynaliadwy.
Mae pob myfyriwr yn mynychu Ffair y Glas, sydd â stondinau gwybodaeth ar Reoli Gwastraff a Theithio Cynaliadwy a Llety Caerdydd / Cyfleoedd Gwirfoddoli.
Mae'r cydweithrediad ag Ysgol Reoli Caerdydd (modiwl Busnes ar Waith) wedi arwain at gyflwyno holiadur a ddyluniwyd gan fyfyrwyr i holl fyfyrwyr y flwyddyn 1af sy'n symud ymlaen i'w hail flwyddyn, o'r enw Neuadd i Gartref, mewn partneriaeth â Llety Caerdydd.
Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn rhaglenni Ymsefydlu Ysgolion.
Cydnabyddir yr Archwiliad Mewnol o’r System Reoli Amgylcheddol fel rhan o'r Wobr HEAR. Cymryd rhan yng Ngwobr Met Caerdydd - Llwybr Meddwl Cynaliadwy