Skip to content

Cymryd Rhan

Mae yna nifer o gyfleoedd i staff a myfyrwyr ymgysylltu â mentrau cynaliadwyedd ym Met Caerdydd.

Ar gyfer Myfyrwyr a Staff

  • Ymunwch ag ein Casgliadau Sbwriel - gwiriwch rhain ar Newyddion a Digwyddiadau​.
  • Archebwch eich Beic i mewn am wasanaeth Am Ddim (yn rhan o Caffi Trwsio Cymru) - gwiriwch ar Newyddion a Digwyddiadau.​​​
  • Dysgwch sgiliau cynaliadwy yn ein Gweithdai Gwyrdd misol rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr- gwiriwch rhain ar Newyddion a Digwyddiadau.
  • Mae cyllid ar gael ar gyfer mentrau ar thema cynaliadwyedd dan arweiniad staff neu fyfyrwyr bob blwyddyn academaidd, cysylltwch â sustainability@cardiffmet.ac.uk​​ for more information.
  • Ymunwch ag awgrymiadau a syniadau Wythnos Ewch yn Wyrdd.
  • Yn credu mewn Masnach Deg? Gallech ymuno â'n grŵp Llywio Masnach Deg!
  • Dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram i gael gwybodaeth am y gwaith cynaliadwyedd a digwyddiadau yn y Brifysgol!
  • Dewch i gymryd rhan yn y Diwrnodau Cymunedol misol a’r Caffi Atgyweirio - Edrychwch ar dudalen Newyddion a Digwyddiadau.
  • A oes gennych syniad gwych o ran sut i wella cynaliadwyedd Met Caerdydd neu sut i gyfathrebu ein gwaith i fyfyrwyr neu staff eraill? Anfonwch eich syniadau atom neu hyd yn oed gymryd rhan yn y broses ymgynghori flynyddol ar gyfer ein polisïau a'n strategaethau cynaliadwyedd. Gweler y Dudalen Ymgynghori am fwy o wybodaeth.
  • Dewch yn rhan o'r ymgyrch i gasglu cwpanau coffi untro ar y campws, cysylltwch â sustainability@cardiffmet.ac.uk.
  • Gwirfoddolwch gyda phrosiect Gardd Gymunedol Met Caerdydd ar gampws Llandaf, cysylltwch â: Gardd Gymunedol, sustainability@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer myfyrwyr

  • Cofrestrwch am ein cylchlythyr Cynaliadwyedd Misol.
  • Ymunwch ag ein digwyddiadau Cynaliadwyedd Cymdeithasol - gwiriwch rhain ar Newyddion a Digwyddiadau​.​​
  • Gwirfoddolwch a dewch yn Llysgennad Myfyrwyr Cynaliadwyedd gan gysylltu â sustainability@cardiffmet.ac.uk
  • Ystyriwch fynychu diwrnodau ardystiedig hyfforddiant archwilio mewnol ar gyfer IS0 14001 a chymryd rhan mewn archwiliadau tîm, cysylltwch â sustainability@cardiffmet.ac.uk.
  • Ystyriwch wirfoddoli gyda Hyrwyddwyr Amgylcheddol Llety Caerdydd, sy’n hyrwyddo cyflogadwyedd ac ymwybyddiaeth o faterion cynaliadwyedd.
  • Manteisiwch ar gysylltiadau Undeb y myfyrwyr â Myfyrwyr Gwirfoddoli Caerdydd (SVC).

Ar gyfer y staff

  • Cofrestrwch am ein cylchlythyr Cynaliadwyedd Misol.​
  • Ymunwch ag ein digwyddiadau Cynaliadwyedd Cymdeithasol - gwiriwch rhain ar Newyddion a Digwyddiadau​.​​
  • Mae cyfleoedd i staff ymgysylltu ar gael mewn ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a mentrau. Cymryd rhan neu hyd yn oed gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau Wythnos Go Green gyda myfyrwyr.
  • Gwirfoddolwch i fod yn Archwiliwr Amgylcheddol hyfforddedig o'n system rheoli amgylcheddol, gan weithio mewn timau gyda myfyrwyr.
  • Cynrychiolwch eich Ysgol neu'ch Uned ynghyd â Pherchnogion Agweddau yng nghyfarfodydd tymhorol y Grŵp​ Cynaliadwyedd.

Cysylltwch â sustainability@cardiffmet.ac.uk neu'ch Ysgol/Uned - cynrychiolydd Hyrwyddwr Gwyrdd.

Cylchlythyr Cynaliadwyedd​

Ein cylchlythyr cynaladwyedd misol yw'r ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd ar y campws o ran cynaliadwyedd. Mae’n cynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau, newyddion am bethau rydym wedi bod yn gweithio arnynt a lluniau hardd o’n gwenyn a’n blodau ar y campws

Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr cynaliadwyedd misol yma.

Porwch trwy rifynnau blaenorol y cylchlythyr:

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol

Facebook - Ymgysylltiad Cynaliadwyedd Met Caerdydd

Twitter – Ymgysylltiad Cynaliadwyedd Met Caerdydd

Instagram - Ymgysylltiad Cynaliadwyedd Met Caerdydd​