Skip to content

Doethuriaeth Broffesiynol

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn raglen strwythuredig, ond hyblyg, Lefel 8 ar gyfer unigolion sy’n anelu at astudio a gwneud gwahaniaeth i’w gweithle a/neu ymarfer eu hunain. O ystyried natur y rhaglen, mae ar gael fel opsiwn rhan-amser yn unig.

Mae’r wobr yn addas ar gyfer unigolion yn y gweithle sydd ag uchelgais i ddylanwadu’n gadarnhaol ar y gweithle a/neu eu hymarfer proffesiynol eu hunain.

Byddwch yn symud ymlaen trwy 4 modiwl a gefnogir gan dîm Goruchwylio ac yn cymryd rhan mewn ymarfer myfyriol i werthuso’r newid ymarferol yr ydych wedi’i gynnig trwy eich prosiect.

Mae’r llwybrau sydd ar gael fel a ganlyn:

  • Iechyd Cymhwysol – Doethuriaeth Broffesiynol (DAH) newydd
  • Gweinyddu Busnes – Doethuriaeth Broffesiynol (DBA)
  • Rheoli Dylunio – Doethuriaeth Broffesiynol (DDM) newydd
  • Addysg – Doethuriaeth Broffesiynol (EdD)
  • Addysg (Cymru) - Doethuriaeth Broffesiynol (EdH) newydd
  • Peirianneg – Doethuriaeth Broffesiynol (DEng)
  • Ymarfer Proffesiynol – Doethuriaeth Broffesiynol (DProf)
  • Ymarfer Proffesiynol: Gwyddorau Iechyd – Doethuriaeth Broffesiynol (DProf)
  • Ymarfer Proffesiynol: Chwaraeon – Doethuriaeth Broffesiynol (DProf)
  • Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy – Doethuriaeth Broffesiynol (DSBE)

Hyd a dull astudio: rhan-amser, 4.5-6 blynedd

I gael rhagor o wybodaeth, ac i ddarganfod a oes gennym yr arbenigedd i gefnogi eich maes ymchwil arfaethedig, llenwch y ffurflen hon:

Cofrestru Eich Diddordeb mewn Astudiaethau Ôl-raddedig ac Ymchwil