Uniondeb a Llywodraethu Ymchwil
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ymddygiad proffesiynol ym mhob gweithgaredd prifysgol ac ymchwil.
Mae Fframwaith Llywodraethu Ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn berthnasol i bob aelod o staff a myfyriwr sy'n ymwneud ag ymchwil boed y gwaith ymchwil yn cael ei wneud o fewn neu y tu allan i Met Caerdydd. Mae'r Fframwaith hefyd yn berthnasol i unigolion nad ydynt yn aelodau o Met Caerdydd ond a allai fod yn gwneud gwaith ymchwil o fewn adeiladau Met Caerdydd.
Mae'r fframwaith yn cynnwys set o ddisgwyliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bawb sy'n ymwneud ag ymchwil gynnal safonau rhagorol o ymarfer academaidd a gonestrwydd ym mhob agwedd ar ymchwil trwy ddarllen, deall ac ymgorffori'r egwyddorion a'r arferion a nodir yn y Fframwaith yn eu gwaith bob dydd.
Mae'r Polisi Camymddwyn ym maes Ymchwil Met Caerdydd yn berthnasol i bob unigolyn sy'n ymwneud ag ymchwil ym Met Caerdydd. Mae unigolion o'r fath yn cynnwys staff, myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn aelodau o Met Caerdydd, ond a allai fod yn gwneud gwaith ymchwil o fewn adeiladau Met Caerdydd.
Mae'r polisi'n mynnu bod honiadau o gamymddwyn ymchwil yn cael eu gwneud yn ysgrifenedig i Pennaeth Ymchwil y Brifysgol a fydd yn pennu a oes achos camymddwyn prima facie yn bodoli.
Adolygir y Polisi bob tair mlynedd, ac fe gymeradwywyd y fersiwn gyfredol ym mis Rhagfyr 2024.
Datganiadau Blynyddol ar Uniondeb Ymcwhil
- Datganiad Blynyddol 2023
- Datganiad Blynyddol 2022
- Datganiad Blynyddol 2021
- Datganiad Blynyddol 2020
- Datganiad Blynyddol 2019
- Datganiad Blynyddol 2018
Goruchwylio Uniondeb a Llwyodraethau Ymchwil
Pennaeth Ymchwil y Brifysgol yw'r uwch arweinydd academaidd ar gyfer materion sy'n ymwneud ag uniondeb a llywodraethu ymchwil, gan gynnwys moeseg ymchwil ac fe'i cefnogir gan y Rheolwr Ymchwil, sydd wedi'i leoli yn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS).
Cyswllt
Am unrhyw ymholiad yn ymwneud ag Uniondeb Ymchwil a Llywodraethu ym Met Caerdydd, gan gynnwys pryderon sy'n ymwneud â chamymddwyn ymchwil posibl, cysylltwch yn y lle cyntaf gyda:
Kate Jefferies, kajefferies@cardiffmet.ac.uk, Rheolwr Ymchwil