Amgylchedd Ymchwil a Diwylliant
Ym Met Caerdydd, ein nod yw gwella ansawdd, cyrhaeddiad ac effaith ein hymchwil yn barhaus, gan hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer dyfodol tecach, gwyrddach. Mae hyn yn cael ei alluogi drwy Amgylchedd Ymchwil ac Arloesi cefnogol a chynhwysol, sy'n hwyluso datblygiad academaidd a phroffesiynol fel ei gilydd.
P'un a ydych chi'n Ymchwilydd Doethurol, yn Ymchwilydd Gyrfa Gynnar neu'n Athro profiadol, mae Met Caerdydd yn cynnig cyfoeth o gymorth i alluogi eich datblygiad gyrfa. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys mentora ac ymgysylltu â chymunedau, rhaglenni hyfforddi wedi'u teilwra, a chyllid a buddsoddiad, ynghyd â llwyfannau i arddangos eich ymchwil ac arloesi.
Rydym yn gweithio i gefnogi pob cam o'ch taith ymchwil ac arloesi, o feithrin syniadau i ddarparu atebion arloesol ac effeithiol – a'r holl gamau rhyngddynt, gan gynnwys cymorth ar gydweithio ag academyddion, diwydiannau a mentrau eraill.