
Yvonne Saker
Rheolwr Rhaglenni a Phartneriaethau
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Trosolwg
Yvonne yw Rheolwr Cymorth Prosiectau Academaidd yr Ysgol ac mae'n gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Cyfarwyddwr Rhaglenni Academaidd, Deon Cysylltiol Rhyngwladoli a’r Cydlynydd Amserlenni gyda chyflwyniad mentrau newydd yn yr Ysgol.
Hi hefyd yw Rheolwr Rhaglen y cwrs MSc Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Gan weithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwr y Rhaglen, mae Yvonne yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wella'r rhaglen yn barhaus, logisteg y cyrsiau preswyl ac yn darparu cyswllt rhwng y gweithwyr proffesiynol academaidd a meddygol sy'n darlithio ar y cwrs. Hi hefyd yw'r prif gyswllt ar gyfer pob ymholiad yn y maes hwn.