Skip to content
Cardiff Met Logo

Sarah Hurley

Gweinyddwr Ymchwil ac Arloesedd
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Trosolwg

Yn hanu o Lerpwl, symudais i Gaerdydd yn 2009 a dyna lle dw i’n byw ers hynny. Mae mwyafrif fy mhrofiad gwaith ym maes Adnoddau Dynol a Recriwtio, ond rwyf wedi cael gyrfa amrywiol yn gweithio ar draws y sector preifat, y trydydd sector a'r sector elusennol ond bob amser gyda ffocws gweinyddol ar y rolau. Roeddwn yn rhan o'r broses o recriwtio swyddogion diogelwch ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 ac rwyf wedi bod yn rhan o dîm adnoddau dynol arobryn ar gyfer Tai Hafod. Mae gen i chwaeth eclectig o ran cerddoriaeth, dwi wrth fy modd yn mynd i'r theatr ac yn mwynhau ymweld ag amgueddfeydd ac orielau. Mae gen i angerdd dros Faterion amgylcheddol a natur ac ar hyn o bryd rydw i'n gwirfoddoli gyda Chyngor Caerdydd i gwblhau arolygon glaswelltir o'r ardaloedd dim torri gwair o amgylch y Sir i helpu i gynyddu bioamrywiaeth Caerdydd.​