
Sandra Dumitrescu
Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Mae Sandra yn Arbenigwr Chwarae Iechyd cofrestredig, ac wedi gweithio’n bennaf o fewn lleoliadau gofal iechyd yn ystod y 22 mlynedd diwethaf. Mae wedi teithio dramor gyda’i gwaith i gefnogi plant mewn sefydliadau yn Romania, gan gydweithio â’r staff cynhaliol, yn ogystal â sefydlu hospis i blant â HIV/AIDS.
Yn 1995, wedi iddi ddychwelyd o Romania, ymgymerodd Sandra â rôl ‘Darlithydd Arbenigol’ i’r cwrs Arbenigwr Chwarae mewn Ysbyty yng Ngholeg Gofal ac Addysg Gynnar ym Mryste. Yn ei blwyddyn olaf yn y coleg (2001), hi oedd Arweinydd y Rhaglen. Rhwng 1998 a 2013, cyflogwyd Sandra gan Dŷ Hafan (hosbis plant) lle roedd yn gyfrifol am sawl rôl. Ei rôl olaf yno oedd Rheolwr Gwasanaethau Therapiwtig. Datblygodd ddiddordeb mewn arweinyddiaeth, rheoli a datblygiad proffesiynol yn ystod ei chyfnod yn Nhŷ Hafan. Cefnogodd y tîm Gwasanaethau Therapiwtig i gynnal prosiect ymchwil gweithredol a oedd yn edrych ar y rhinweddau arweinyddol sydd eu hangen i gefnogi ymarferwyr chwarae i wella eu hymarferiad, wrth ddarparu gwasanaeth chwarae cynaliadwy i’r plant yn eu gofal.
Mae Sandra ar hyn o bryd yn dysgu ar lwybr Astudiaethau Plentyndod Cynnar y radd Astudiaethau Addysg, ac yn arwain ar fodiwlau Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol, Iechyd a Lles, Ymarfer Cynhwysol yn y Blynyddoedd Cynnar; mae’n cyfrannu hefyd i’r modiwl Chwarae a Dysgu Cynnar. Mae sicrhau statws proffesiynol i ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar yn un o’o phrif ddiddordebau, yn ogystal â chwarae i blant sydd ag anghenion dwys a chymhleth.
Cyhoeddiadau Ymchwil
‘Oh no, the stick keeps falling!’: An analytical framework for conceptualising young children’s interactions during free play in a woodland setting
Ellis, C., Beauchamp, G., Sarwar, S., Tyrie, J., Adams, D., Dumitrescu, S. & Haughton, C., 31 Ion 2021, Yn: Journal of Early Childhood Research. 19, 3, t. 337-354 18 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Using video to research outdoors with young children
Beauchamp, G., Haughton, C., Ellis, C., Sarwar, S., Tyrie, J., Adams, D. & Dumitrescu, S., 4 Meh 2019, Using Innovative Methods in Early Years Research: Beyond the Conventional. Taylor and Francis, t. 124-137 14 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid