
Trosolwg
Mae Sam yn ddarlithydd mewn Busnes ym Met Caerdydd, mae hefyd yn ymgeisydd PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd lle mae’n defnyddio dadansoddiad systemau’r byd i edrych ar y cysylltiadau rhwng diwylliant, daearyddiaeth, a hanes i egluro ymyloldeb economaidd rhai o wledydd Ewrop, yn enwedig Cymru. Mae ei waith wedi ymddangos ym mhapur newydd y Morning Star, mewn llyfrau fel 'The Welsh Way' a 'Liberated Texts', ac ar-lein. Enillodd ei waith hefyd y wobr am y cyflwyniad gorau yng Ngholocwiwm Gyrfa Cynnar y Gymdeithas Wyddoniaeth Ranbarthol. Mae ei ddiddordebau pellach yn cynnwys astudio anghydraddoldebau ym mhêl-droed y byd, yr Undeb Ewropeaidd, a'r cysylltiad rhwng economeg a chenedlaetholdeb.