
Sally Griffiths
Cynorthwy-ydd Gwybodaeth a Derbynnydd
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Trosolwg
Wrth dyfu i fyny yng Ngogledd Cymru, treuliais fy mhlentyndod a’m harddegau yn ymwneud â’r celfyddydau creadigol; arlunio, peintio, gwnïo, chwarae cerddoriaeth, ac yn y theatr. Symudais i Gaerdydd ym 1998 i astudio actio, ac am y 13 mlynedd nesaf teithiais yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan chwarae mewn pob math o leoliadau, o ysgolion a pharciau, i theatrau ac ar y teledu.
Yn dilyn hyn, treuliais 12 mlynedd yn gweithio i CBAC, yn gweithio mewn gwahanol feysydd o'r sefydliad, nes dod yn Uwch Swyddog ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bûm yn gwneud ymdrechion creadigol yn y gwaith a thu allan, gan astudio dylunio mewnol, a gwnïo, a hyfforddi fel Athro Hypno-enedigaeth.
Ers ymuno â CSAD yn 2022, rwyf wedi mwynhau gweithio ar y cyd â chydweithwyr a myfyrwyr i hyrwyddo’r gwaith rhagorol sy’n digwydd yma. Rwyf wedi treiddio ymhellach i fyd cyfathrebu gweledol, (rhywbeth rwy’n gobeithio adeiladu arno) ac wedi ailddechrau fy astudiaethau fel siaradwr Cymraeg ail iaith.
Rwyf bellach yn byw yn nhref glan môr hyfryd Y Barri, lle rwy’n mwynhau ysbeilio’r siopau elusennol i ddod o hyd i berlau ail-law cynaliadwy, nofio yn y môr a chwarae ar y traeth gyda fy mab a’m gŵr.