Skip to content
Cardiff Met Logo

Sally Bethell

Uwch Ddarlithydd TAR Addysg Uwchradd
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Trosolwg

Mae Sally yn uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol. Bu Sally am gyfnod yn Gyfarwyddwr Rhaglen y cwrs TAU Uwchradd, ond bellach mae’n dysgu ar y cwrs AddGorff TAR Uwchradd ac addysgeg ar y cwrs gradd. Mae hi hefyd yn cyfrannu at ddarpariaeth AddGorff yn y cwrs TAR Cynradd a’r cwrs MA mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon. Astudiodd Sally ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle enillodd radd BA (Anrhydedd) Cyfun mewn Addysg Gorfforol a Chymdeithaseg. Dilynodd gwrs TAR mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Exeter. Dechreuodd ei gyrfa ddysgu yn Swydd Rhydychen fel athrawes AddGorff ar y brif raddfa, cyn symud i Swydd Efrog am 12 mlynedd a pharhau fel athrawes AddGorff yn ogystal â phennaeth adran, pennaeth gyrfaoedd a dod yn Uwch Athro Sgiliau (AST).

Yn 2000, symudodd Sally i fyw i dde Cymru a dysgu AddGorff mewn ysgol yng Nghaerloyw. Ar yr un pryd, dechreuodd weithio i Chwaraeon Cymru fel Hyfforddwr Cenedlaethol ar brosiect Campau’r Ddraig. O’i gwaith ymgynghori gyda Chwaraeon Cymru, daeth yn Hyfforddwr Cenedlaethol gan gyfrannu at hyfforddiant tiwtoriaid a gwella ansawdd. Gyda dyfodiad menter Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (PESS) Llywodraeth Cymru, daeth yn Hyfforddwr Cenedlaethol i’r prosiect Iechyd, Ffitrwydd a Llesiant, gan weithio ar ddatblygu adnoddau a chyflwyno cyrsiau hyfforddi. Mae ei gwaith yn y prosiectau hyn wedi cefnogi dysgu elfen iechyd a llesiant ar y rhaglen TAR gyfredol gan adlewyrchu’r pwyslais sydd ar yr agwedd hon yn y cwricwlwm newydd i Gymru.

Rhwng 2011 a 2014, llwyddodd TAR AddGorff i sicrhau cryn dipyn o arian i ddatblygu cyfleoedd DPP AddGorff o ansawdd uchel i athrawon cynradd ac uwchradd dan hyfforddiant. Mae Sally yn Arholwr Allanol i’r cwrs BA (Anrhydedd) gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) ym Mhrifysgol Brighton. Mae hi hefyd wedi ymgymryd â hyfforddiant arolygydd cymheiriad gydag Estyn.

Cyhoeddiadau Ymchwil

Mentoring PE Student Teachers in Wales: lessons from a systematic review of literature

Bethell, S., Bryant, A., Cooper, S. M., Edwards, L. & Hodgkin, K., 1 Medi 2020, Yn: Wales Journal of Education.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Problem-based and experiential learning: Engaging students in an undergraduate physical education module

Bethell, S. & Morgan, K., Ebr 2011, Yn: Journal of Hospitality, Leisure, Sport and Tourism Education. 10, 1, t. 128-134 7 t.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Proffil Archwiliwr Ymchwil Visit the research portal