
Robert Taffurelli
Uwch Ddarlithydd
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2006 fel Darlithydd Cysylltiol ar gwrs BA Cyfryngau Darlledu a Diwylliant Poblogaidd yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, cyn symud i Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd fel Darlithydd Cysylltiol ar gwrs BA Diwylliant Poblogaidd. Cefais fy mhenodi yn Ddarlithydd llawn amser yn yr Ysgol Addysg yn 2009, ac yno rwyf wedi datblygu a chynllunio’r rhaglen BA Cyfryngau. Ar hyn o bryd, rwy’n Arweinydd Pwnc ac Uwch Ddarlithydd y Cyfryngau a Chyfarwyddwr Rhaglen MA Newyddiaduraeth Arbenigol. Rwyf hefyd yn Gynrychiolydd Menter dros Ddyniaethau o fewn yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol.
Ar ôl graddio o Brifysgol Surrey gyda BA mewn Hanes a Saesneg, gweithiais am gyfnod byr o fewn Marchnata cyn dechrau ar yrfa ym myd Newyddiaduraeth. Ymunais â World Trade Magazines yn 1995 fel Cynorthwyydd Golygyddol. Symudais wedyn i fy maes arbenigol fel Newyddiadurwr Ffilm, yn Olygydd Cynorthwyol y British Film and Television Journal ac yn ddiweddarach fel Golygydd Film & TV Production Review, cyfnodolyn masnach rhyngwladol yr oeddwn yn ei gynrychioli’n rheolaidd mewn gwyliau, cynadleddau ac arddangosfeydd rhyngwladol, gan gynnwys: IBC – Amsterdam, MIPTV, MIPCOM, Locations Trade Show – Santa Monica, ShowBiz Expo – Efrog Newydd, Siggraph – Los Angles. Tra roeddwn i’n gweithio yn HHC plc, sef un o dai cyhoeddi cylchgronau mwyaf Llundain ar y pryd, roeddwn hefyd yn Rheolwr Olygydd a Dirprwy Olygydd Grŵp.
Ar ôl cwblhau MA mewn Hanes Ffilm a’r Cyfryngau Gweledol yng Ngholeg Birkbeck, Prifysgol Llundain, bûm yn newyddiadurwr llawrydd, yn arbenigol mewn Ffilm a Theledu. Bûm yn ysgrifennu a golygu ar gyfer nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys: Broadcast, The Production Guide, International Locations Guide, Film Review, International Broadcast Engineer, Sights and Sounds, Sky Cinema, Widescreen, Emirates Entertainment Guide, International High Flyer, Highstyle, A Year of Football, The Jubilee Trust. Gweithiais hefyd fel Olygydd Ymgynghorol i IBE: International Broadcast Engineer.
Ar ôl gorffen fy TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol ym Mhrifysgol Caerdydd, gweithiais am gyfnod byr yn y sector Addysg Bellach cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd fel Darlithydd Cysylltiol yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes lle roeddwn yn gyfrifol am ysgrifennu, dylunio a dysgu nifer o fodiwlau Ffilm.