Skip to content
Cardiff Met Logo

Dr Ricky Li

Prif Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen MBA
Ysgol Reoli Caerdydd

Trosolwg

Ymunodd Dr Ricky Li â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2016. Cyn iddo ddechrau ei yrfa academaidd yn 2008, bu'n gweithio mewn rolau amrywiol mewn cyfrifyddu, cyllid ac yswiriant busnes.

Mae'n Uwch Gymrawd yr AAU a Chadeirydd y Grŵp Maes ar gyfer Bancio a Buddsoddi. Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn pynciau cyfrifyddu, cyllid a buddsoddi ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae hefyd yn oruchwylydd profiadol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a PhD.

Mae gan Ricky ddiddordebau ymchwil mewn sawl disgyblaeth a maes gan gynnwys Addysg Cyfrifeg a Chyllid, Entrepreneuriaeth, ymchwil addysgeg mewn hyfforddiant heddlu ac addysg gradd.