Skip to content
Cardiff Met Logo

Philippa Lawrence

Prif Ddarlithydd Ymarfer Tecstilau Cyfoes
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd - MA (RCA) FHEA

Trosolwg

Ganed Philippa Lawrence yn Swydd Lincoln. Graddiodd o Ysgol Gelf Norwich gyda Gradd Dosbarth 1af (Anrh) mewn Celfyddyd Gain yn 1990 ac o'r Coleg Celf Brenhinol yn 1993 gydag MA mewn Gwneud Printiau. Mae hi'n byw ym Mryste ac mae ganddi stiwdio yn Spike Island.

Mae Philippa yn gweithio ar brosiectau, comisiynau ac arddangosfeydd safle-benodol. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys America, Japan, Gweriniaeth Tsiec, Canada, Gwlad yr Iâ ac Awstralia.

Mae ei hymarfer yn amrywiol, wedi'i seilio ar y broses o ddarllen a deall safle, gan gofleidio celf tir ac amgylcheddol, y defnydd o decstilau mewn cyd-destun celfyddyd gain, a'r berthynas rhwng celf, crefft a dylunio. Mae ei chysyniadau a'i dewisiadau materol yn cael eu harwain gan ymchwil a chyd-destun. Mae hi'n ymwneud ag ymchwil parhaus sy'n edrych ar ein treftadaeth ddiwylliannol, gan ymgysylltu ag ymarferwyr olaf sgiliau crefft traddodiadol.

Mewn byd sy'n newid yn gyflym, mae'n gofyn i ni ystyried ymgysylltiad dynol â'r ddaear a'i hadnoddau a deall a gwerthfawrogi gwerth, cynhyrchiad a statws newidiol deunyddiau, celf ac arteffactau.

Cyhoeddiadau Ymchwil

“Bound,” The Use of Cloth as Interface: Exploring Boundaries and Concepts in Relation to Site and Place’

Lawrence, P., 2012

Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunolArddangosfa

Proffil Archwiliwr Ymchwil Visit the research portal