
Peter Pickford
Technegydd Arddangoswr mewn Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Trosolwg
Dechreuodd Peter ei yrfa fel peiriannydd safle graddedig cyn symud i weithio gyda thechnolegau digidol o fewn yr Amgylchedd Adeiledig. Mae ganddo ddiddordeb cryf yn y ffordd mae'r amgylchedd adeiledig yn cael ei gyfathrebu'n weledol trwy gydol cylch bywyd prosiect. Yn 2020 cwblhaodd radd meistr mewnModelu Gwybodaeth Adeiladu ar gyfer Peirianneg Glyfar o Ysgol Peirianneg Caerdydd lle canolbwyntiodd ar ddefnyddio LiDAR ar gyfer ôl-ffitio adeiladau preswyl. O fewn CSAD mae'n rhan o grŵp ymchwil Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy a Gwydn lle mae'n parhau â'i ymchwil i'r maes pwnc hwn.
Mae Peter yn syrffiwr brwd a gellir dod o hyd iddo yn aml oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae hefyd yn ffotograffydd brwd ac wrth ei fodd yn teithio gyda'i gamera.