Skip to content
Cardiff Met Logo

Owen Stickler

Uwch Ddarlithydd mewn Animeiddio
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Trosolwg

Er mai animeiddio yw fy mhrif faes pwnc, mae fy niddordebau creadigol yn eang. Cefais fy addysg fel peintiwr a gwneuthurwr printiau tra’n astudio gradd mewn celfyddyd gain, ond mae ffilm ac animeiddio wedi bod yn ddylanwad cryf ar fy ngwaith erioed.

Cyn i mi ddechrau gweithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, roeddwn i'n gweithio'n bennaf yn y diwydiant animeiddio masnachol. Rwyf wedi bod yn ymwneud ag addysg drwy gydol fy ngyrfa. Yn ystod fy ngyrfa o 25 mlynedd, rwyf wedi gweithio gyda rhai o'r darlledwyr, cynhyrchwyr, awduron a phobl greadigol enwocaf yn y diwydiant adloniant plant rhyngwladol.

Ers dechrau dysgu Animeiddio fel pwnc, rwyf wedi cael fy synnu gan ehangder a dyfeisgarwch y ffurf. Mae'n anhygoel sut mae animeiddio wedi treiddio i gynifer o bynciau eraill, fel graffeg, celfyddyd gain, darlunio a phob math o ddylunio.

Mae fy rolau blaenorol yn cynnwys:

2013 -2016 Rheolwr Gyfarwyddwr yn A&O Studio.
Cyfrifoldebau. Datblygiad I.P. Gwreiddiol
Cyfeiriad/Cynhyrchu animeiddio.

Hyfforddiant — Cynllun Hyfforddi Cynhyrchydd Creadigol mewn partneriaeth â Phrifysgol
Metropolitan Caerdydd Creative Skillset ac S4C.

2013 — 2016. Darlithydd (Tâl fesur awr) ar Gynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol a Graffeg
Cyfrifiadurol Prifysgol De Cymru

2004 - 2013 Rheolwr gyfarwyddwr Dinamo Productions.
Cyfrifoldebau. Datblygiad I.P.Development Gwreiddiol.
Cyfarwyddo/Cynhyrchu animeiddio.
Rheoli a Hyfforddi Staff.

1996 - 2003 Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd/Animeiddiwr/Addysgwr Cinetig LTD.
Cyfrifoldebau. Animeiddiwr/Cyfarwyddwr ar brosiectau ffilm fer.
Hyfforddwr Animeiddio/Addysgwr ar Brosiectau Animeiddio Cymunedol/Ffilm.

Drwy ymwneud â hyfforddiant , rwyf wedi ymwneud â chyrff proffesiynol megis Creative Skillset a Cyfle. Rwy'n aelod o fwrdd sgiliau animeiddio Skillset ac wedi bod yn Fentor ar gynllun Darpariaeth Greadigol Skillset. Rwyf hefyd wedi gweithio i Skillset fel asesydd diwydiant ar eu gwobrau achredu Tick.

Mae'r profiadau hyn wedi rhoi cipolwg gwirioneddol i mi o strwythurau academaidd ar gyrsiau animeiddio addysg uwch amrywiol. Rwyf wedi ysgrifennu a chynhyrchu cyrsiau hyfforddi gan gynnwys y cwrs Cynhyrchydd Creadigol a gynhelir mewn cydweithrediad â Creative Skillset a Cyfle ac YGDC.

Roedd Dinamo Productions yn rhan o rai o raglenni plant mwyaf proffil uchel y degawd diwethaf gan gynnwys 'Rastamouse' Grandpa in My Pocket', 'Iconicles' a'n cyfres I.P wreiddiol ein hunain 'Abadas. Mae fy mhrofiad cynhyrchu animeiddio yn cwmpasu pob agwedd o ddatblygu cysyniad hyd at ddarparu’r prosiect terfynol.