
Dr Nusiebeh Alrwashdeh
Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg
Ysgol Reoli Caerdydd
Trosolwg
Mae gan Dr Nusiebeh Alrwashdeh radd PhD mewn Economeg a Chyllid o Brifysgol Portsmouth.
Mae Dr Alrwashdeh yn Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg, Economeg a Chyllid ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Cyn ymuno â'r Brifysgol, enillodd ystod eang o brofiad addysgu ac ymchwil fel darlithydd ac arweinydd seminar dramor. Mae Dr Alrwashdeh ar y gweill i gael Cymrodoriaeth yr AAU — y DU wrth addysgu. Yn ogystal, mae ganddi gymhwyster proffesiynol gan y Sefydliad Siartredig Gwarantau a Buddsoddi (CISI-UK) ac mae'n Aelod Cymrawd Cyswllt o CISI-UK.
Mae diddordebau ymchwil Dr Alrwashdeh yn ymwneud â chyllid cynaliadwy, cyllid gwyrdd a pherfformiad y sector ariannol. Mae ei phapurau wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol ag enw da ac maent yn cael effaith fawr. Mae gan Dr Alrwashdeh saith mlynedd o brofiad proffesiynol mewn dau sefydliad ariannol gwahanol, lle dadansoddodd ddata credyd a datganiadau ariannol i bennu faint o risg sy'n gysylltiedig ag ymestyn credyd neu fenthyca arian.
Mae Dr Alrwashdeh yn croesawu ymholiadau sy'n ymwneud â chyfleoedd ymgynghori posibl, hyfforddiant corfforaethol, cydweithio ymchwil neu oruchwyliaeth PhD.
Cyhoeddiadau Ymchwil
Bank capital and risk in emerging banking of Jordan: a simultaneous approach
Alrwashdeh, N. N. F., Noreen, U., Danish, M. H. & Ahmed, R., 11 Maw 2024, Yn: Cogent Economics and Finance. 12, 1, 2322889.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Assessing the factors affecting the liquidity risk in Jordanian commercial banks: a panel data analysis
Alrwashdeh, N. N. F., Ahmed, R., Danish, M. H. & Shah, Q., 11 Ebr 2023, Yn: International Journal of Business Continuity and Risk Management. 13, 1, t. 84-99 16 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Can enhancing financial inclusivity lower climate risks by inhibiting carbon emissions? Contextual evidence from emerging economies
Murshed, M., Ahmed, R., Khudoykulov, K., Kumpamool, C., Alrwashdeh, N. N. F. & Mahmood, H., 7 Maw 2023, Yn: Research in International Business and Finance. 65, 101902.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
The performance of bidding companies in merger and acquisition deals: An empirical study of domestic acquisitions in Hong Kong and Mainland China
Ahmed, R., Chen, Y., Benjasak, C., Gregoriou, A., Nahar Falah Alrwashdeh, N. & Than, E. T., 28 Medi 2020, Yn: The Quarterly Review of Economics and Finance. 87, t. 168-180 13 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid